Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2021 · Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ebrill 2021  · Tagiwyd yn:  2020 to 2021  a  2020 forms

Gwnewch gais am gyllid myfyrwyr yn awr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn.

Gwnewch gais nawr!

Myfyrwyr newydd

Os ydych yn fyfyriwr newydd, dylech wneud cais erbyn 4 Mehefin. Dim ond tua 30 munud y dylai ei gymryd i chi gwblhau eich cais! Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallwch wneud cais yn awr a diweddaru eich manylion yn nes ymlaen.

Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd!

Gwnewch gais nawr

Myfyrwyr sy’n parhau

Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau â’ch astudiaethau, mae gennych ddigon o amser i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein er mwyn gwirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir. Mae gennych tan 25 Mehefin i wneud cais o’r newydd am gyllid.

Mewngofnodi (yn agor mewn tab newydd)

 

Newyddion cysylltiedig

Gwnewch gais am gyllid myfyrwyr yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn.