Cyhoeddwyd: 28 Mehefin 2021 · Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mehefin 2021  · Tagiwyd yn:  israddedig rhan-amser

2021 i 2022: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2021 i 2022 ar agor yn awr.

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

Dylech wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg, dylech wneud cais yn awr gan ddefnyddio eich dewis cyntaf a’i newid yn nes ymlaen os oes angen.

Beth am wylio ein ffilm fer i gael gwybod pa gyfuniad o fenthyciadau a grantiau y gallech ei gael?

Gallwch hefyd fynd i’r hafan ar gyfer myfyrwyr rhan-amser i gael gwybod mwy am beth y gallwch ei gael a sut mae gwneud cais.

 

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

2022 i 2023 Ceisiadau rhan amser ac Ôl-raddedig

Mae disgwyl y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser a chyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn agor ganol mis Mai.

Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio!

Fyddwch chi’n dechrau cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs Gradd Meistr neu Ddoethuriaeth ôl-raddedig eleni? Rydym wedi’i gwneud yn haws i chi gael gwybod pryd y bydd y cyfnod yn agor i chi wneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023!