Cam 2: Gwneud cais
Cyrsiau Graddau Meistr ôl-raddedig

Gwybodaeth i rieni a phartneriaid

Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm os yw eich plentyn neu’ch partner wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gall eich plentyn neu’ch partner ei gael.


Rhoi manylion eich incwm i ni

Pan fydd eich plentyn neu’ch partner wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, byddwch yn cael neges ebost sy’n cynnwys dolen gyswllt er mwyn i chi ddarparu eich manylion. Gallwch gysylltu â ni os yw’n well gennych ddarparu eich manylion ar ffurflen bapur.

Bydd angen i chi roi manylion incwm eich cartref yn ystod blwyddyn dreth flaenorol, sef:

  • blwyddyn dreth 2019 i 2020 os yw eich plentyn neu’ch partner yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022
  • blwyddyn dreth 2018 i 2019 os yw eich plentyn neu’ch partner yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Os ydych yn cefnogi cais eich plentyn

Incwm eich cartref yw cyfanswm:

  • eich incwm chi
  • incwm eich partner, os ydych yn byw gyda’ch partner (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol)

unrhyw incwm nas enillwyd sydd gan y myfyriwr, er enghraifft o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo.

Os ydych yn cefnogi cais eich partner

Incwm eich cartref yw cyfanswm:

  • eich incwm chi

incwm y myfyriwr, os ydych yn byw gyda’r myfyriwr (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol).

Os yw eich incwm wedi gostwng

Gallwch roi eich manylion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol os ydych yn credu y bydd incwm eich cartref yn gostwng 15% neu fwy o’i gymharu â’r flwyddyn dreth y gofynnwyd i chi ddarparu manylion ar ei chyfer.

Cyflwyno tystiolaeth

Ar ôl i chi roi eich manylon i ni, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwirio a yw’r wybodaeth yn cyd-fynd â’u cofnodion nhw.

Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth:

  • o’ch incwm, os nad yw’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni’n cyd-fynd â chofnodion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • o’ch statws priodasol, os ydych wedi gwahanu, wedi ysgaru neu’n weddw.

Byddwn yn dweud wrthych pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno.

Newid eich manylion

Rhaid i chi ddweud wrthym:

  • os gwnaethoch gamgymeriad
  • os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft eich statws priodasol neu os byddwch yn cael plentyn arall.

Gallwch wneud hynny drwy gyflwyno ffurflen:

Os bydd eich incwm yn gostwng

Gallwch ofyn i ni ddefnyddio manylion am incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn lle’r flwyddyn dreth y cawsom fanylion gennych amdani.

 

Cysylltu â ni

Os byddwch yn cysylltu â ni, ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw beth am eich plentyn neu’ch partner heb gael caniatâd ganddo/ganddi. Cael gwybod sut y gall eich plentyn neu’ch partner roi caniatâd i ni.