Ailasesu eich hawl
Os ydych yn dioddef caledi ariannol oherwydd bod eich hawl i gyllid myfyrwyr wedi’i hailasesu, darllenwch ein canllawiau ynghylch Caledi Ariannol.
Beth yw ailasesiad?
Ailasesiad yw pan fyddwn yn ailgyfrifo eich hawl i gyllid myfyrwyr (faint y gallwch ei gael). Bydd ailasesiad yn digwydd fel rheol pan fyddwn wedi cael:
- gwybodaeth am newid i’ch amgylchiadau
- gwybodaeth sydd wedi’i diweddaru amdanoch chi neu’ch cwrs
- amcangyfrifon newydd neu gadarnhad o wybodaeth megis incwm eich cartref neu gostau gofal plant
Byddwn yn ystyried sut y mae’r wybodaeth newydd yn effeithio ar eich hawl bresennol i gyllid myfyrwyr ac yn rhoi gwybod i chi:
- beth sydd wedi newid
- sut y mae hynny’n effeithio ar eich cyllid
- unrhyw gamau gweithredu y mae angen i chi eu cymryd o ganlyniad
Beth fydd yn digwydd ar ôl ailasesiad?
Byddwn bob amser yn anfon llythyr Hysbysiad o Hawl a ddiweddarwyd atoch er mwyn cadarnhau’r hyn y mae gennych hawl iddo erbyn hyn a dweud wrthych a oes angen i chi wneud unrhyw beth.
Sut y gall ailasesiad effeithio ar fy nghyllid myfyrwyr?
Os caiff yr hyn y mae gennych hawl iddo ei ailasesu, gallai olygu:
- bod mwy o gyllid yn ddyledus i chi ac y gallai eich taliadau yn y dyfodol fod yn fwy
- bod llai o gyllid yn ddyledus i chi ac y gallai eich taliadau yn y dyfodol fod yn llai
- bod llai o gyllid yn ddyledus i chi oherwydd bod gormod o arian wedi’i dalu i chi, a bod angen yn awr i chi ad-dalu’r swm sy’n ormod a dalwyd i chi
- nad yw’r hyn y mae gennych hawl iddo wedi newid – byddwn yn dal i ysgrifennu atoch i gadarnhau hynny.
Beth yw gordaliad grant neu fenthyciad?
Gordaliad yw pan fyddwch wedi cael mwy o gyllid myfyrwyr na’r swm y mae gennych hawl iddo. Gall hynny ddigwydd:
- os na fyddwch yn ein hysbysu eich bod wedi gadael eich cwrs neu’ch bod wedi cymryd seibiant ohono
- os nad ydych wedi rhoi digon o dystiolaeth yn brydlon i brofi eich sefyllfa ariannol
- os yw eich amgylchiadau wedi newid.
Gallwn adennill gordaliad drwy ddidynnu arian o unrhyw daliadau yn y dyfodol. Os ydych wedi gorffen neu adael eich cwrs, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich opsiynau ad-dal. Mae angen ad-dalu gordaliad hyd yn oed os ydych yn ennill o dan y trothwy ad-dalu.
Yn bwriadu cymryd seibiant neu adael eich cwrs yn barhaol?
Rydym yn deall bod amgylchiadau’n newid ac y gallai fod angen i chi:
- gymryd seibiant o’ch astudiaethau (rhoi’r gorau dros dro iddynt)
- gadael eich cwrs yn barhaol (tynnu’n ôl ohono).
Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl o’ch astudiaethau neu roi’r gorau dros dro iddynt, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod ar unwaith i ni a’ch prifysgol neu’ch coleg.
Gall tynnu’n ôl o’ch cwrs neu roi’r gorau dros dro i’ch astudiaethau effeithio ar y cyllid myfyrwyr y gallech ei gael yn y dyfodol.
Yn dal i astudio ac yn ansicr ynghylch pam yr ydych wedi cael llythyr am ordaliad?
Mae’n bosibl y bydd eich hawl i gyllid myfyrwyr yn cael ei hailasesu tra byddwch yn astudio, a allai arwain at ordaliad. Os byddwch wedi cael gordaliad, byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi.
Byddwch hefyd yn cael llythyr Hysbysiad o Hawl newydd a fydd yn nodi’r swm diwygiedig o gyllid myfyrwyr y byddwch yn ei gael ar gyfer y flwyddyn academaidd.