Myfyrwyr annibynnol a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
Myfyrwyr annibynnol
Os ydych yn fyfyriwr annibynnol, ni fyddwn yn ystyried incwm eich rhieni pan fyddwn yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael. Os ydych yn briod neu’n byw gyda phartner, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried incwm eich priod neu’ch partner yn lle hynny, yn dibynnu ar eich oedran a phryd y dechreuodd eich cwrs.
Pwy sy’n gymwys
Byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol:
- os ydych yn 25 oed neu’n hŷn
- os ydych wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil
- os ydych yn gofalu am blentyn dan 18 oed
- os ydych wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- os nad yw’r un o’ch rhieni yn fyw
- os na ellir olrhain eich rhieni neu nad yw’n bosibl cysylltu â nhw
- os ydych wedi ymddieithrio’n barhaol oddi wrth eich rhieni
- os ydych yn ‘berson sy’n gadael gofal’ oedd yng ngofal eich awdurdod lleol pan oeddech rhwng 14 ac 16 oed, yn dibynnu ar yr adeg y gwnaethoch ddechrau eich cwrs.
Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio os ydych:
- dan 25 oed
- wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni
Mae bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni yn golygu nad ydych chi wedi cael unrhyw gyswllt llafar na ysgrifenedig â nhw am o leiaf 12 mis ac mae'n annhebygol y bydd hyn yn newid.
Os ydych chi wedi cael cyswllt â'ch rhieni o fewn y 12 mis diwethaf, gallwch chi wneud cais o hyd, ond bydd angen i chi roi esboniad llawn o natur y cyswllt. Byddai hyn yn cael ei adolygu fesul achos.
Os ydych chi'n gwneud cais fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, nid oes angen i chi anfon gwybodaeth ariannol eich rhieni. Gallwch chi fod â hawl o hyd i'r swm uchaf o gyllid myfyrwyr.
Efallai y byddwch chi hefyd yn cael eich asesu fel rhywun sydd wedi ymddieithrio os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gyswllt â'ch rhieni yn ddiweddarach neu'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf ymddieithrio yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd.
Edrychir ar bob cais ymddieithrio fesul achos.
Pobl sy’n gadael gofal
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr fel person sy’n gadael gofal:
- os ydych wedi bod yng ngofal eich awdurdod lleol neu’ch bod wedi cael llety gan eich awdurdod lleol
- os oeddech yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos
- os daeth eich cyfnod mewn gofal i ben ar ôl i chi gael eich pen-blwydd yn 14 oed
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Awst 2018, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr fel person sy’n gadael gofal:
- os ydych wedi bod yng ngofal eich awdurdod lleol neu’ch bod wedi cael llety gan eich awdurdod lleol
- os oeddech yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos
- os daeth eich cyfnod mewn gofal i ben cyn i chi gael eich pen-blwydd yn 16 oed
- os nad ydych wedi cymodi â’ch rhieni ers i chi adael gofal
Gallwch wneud cais fel person sy’n gadael gofal os ydych wedi cael eich lleoli mewn gofal maeth gan eich awdurdod lleol. Os ydych yn cael eich maethu gan aelod o’ch teulu, eich rhiant bedydd neu ffrind i’ch teulu, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi wneud cais fel myfyriwr annibynnol.
Os ydych wedi cael eich mabwysiadu’n swyddogol gan eich rhiant maeth, yna byddwn yn defnyddio manylion am incwm cartref eich rhiant maeth i gyfrifo faint y gallwch ei gael.
Cyflwyno tystiolaeth
Os ydych yn 25 oed neu’n hŷn
Nid oes angen i chi gyflwyno tystiolaeth, oherwydd byddwch eisoes yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol.
Os ydych wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil
Dim ond os ydych chi'n fyfyriwr sy'n dychwelyd ac mae eich statws wedi newid y mae angen i chi anfon tystiolaeth. Os yw eich statws wedi newid ers i chi wneud cais, dylech gyflwyno copi o'ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, neu ddyfarniad nisi/absoliwt os ydych chi wedi ysgaru neu wahanu.
Os ydych yn gofalu am blentyn dan 18 oed
Dylech gyflwyno copi o dystiolaeth sy'n dangos eich bod yn gofalu amdanyn nhw, fel:
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credydau Treth diweddaraf yn eich enwi chi a’ch holl blant
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf yn eich enwi chi a nifer y plant ar eich cais
- children on your claim
- holl dudalennau eich llythyr Budd-dal Plant diweddaraf yn enwi eich holl blant (gall hyn fod yn eich enw chi neu eich partner)
Gallwn dderbyn lawrlwythiadau neu sgrinluniau o’ch datganiad Credyd Cynhwysol neu lythyr Budd-dal Plant o’ch cyfrif ar-lein os nad oes gennych gopi papur. Rhaid i bob tudalen fod yn glir ac yn bresennol.
Os ydych wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd
Dylech gyflwyno copïau o’ch slipiau cyflog, eich ffurflenni P60 neu lythyrau ynghylch budd-daliadau, sy’n dangos bod gennych ddigon o arian ar y pryd i’ch cynnal eich hun yn rhesymol.
Os nad yw’r un o’ch rhieni yn fyw
Dylech gyflwyno copïau o dystysgrifau marwolaeth eich dau riant.
Os na ellir olrhain eich rhieni neu nad yw’n bosibl cysylltu â nhw
Dylech gyflwyno llythyr wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan berson annibynnol (er enghraifft meddyg neu weithiwr cymdeithasol) sy’n esbonio eich sefyllfa.
Rydych chi wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni
Gallwch lawrlwytho 'ffurflen cadarnhad o ymddieithrio' o'ch cyfrif ar-lein.
Gallwch hefyd gyflwyno datganiad ategol gan drydydd parti annibynnol a all gadarnhau eich ymddieithriad.
Efallai y gofynnir i chi roi tystiolaeth o'ch ymddieithriad bob tro y byddwch yn gwneud cais, ond bydd hyn yn cael ei adolygu fesul achos.
Datganiadau ategol
Llythyr yw datganiad ategol, wedi ei ysgrifennu gan drydydd parti annibynnol sydd ag enw da yn y gymuned. Rhaid iddynt allu dangos eu bod yn gwybod nad ydych wedi cael cyswllt llafar nac ysgrifenedig â'ch rhieni.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ddatganiad ategol:
- llythyr gan aelod o staff yn eich ysgol neu goleg sy'n egluro eu bod yn gwybod am y berthynas anodd tra roeddech chi yn yr ysgol a'ch ymddieithriad wedi hynny
- llythyr gan eich meddyg yn egluro eich bod wedi adrodd yn gyson ac yn hanesyddol am anawsterau sy'n gysylltiedig â'ch ymddieithriad
- llythyr gan weithiwr cymdeithasol neu awdurdod lleol sy'n dangos eu bod yn ymwybodol o'ch sefyllfa anodd, neu eu bod wedi cyhoeddi gorchymyn amddiffyn plant i chi
- llythyr gan gwnselydd neu sefydliad fel Cymdeithas Genedlaethol Pobl a Gam-driniwyd yn ystod Plentyndod neu Karma Nirvana, sy'n cadarnhau eich bod wedi bod yn ceisio cefnogaeth ar gyfer eich ymddieithriad
- llythyr gan weithiwr cymorth tai a allai fod wedi eich helpu i ddod o hyd i lety ar ôl i chi adael cartref
- llythyr gan aelod o'r offeiriad neu weinidog, rabi neu imam sy'n egluro eu bod yn ymwybodol o'r anawsterau yn eich teulu a'ch ymddieithriad wedi hynny
- datganiad o ddigwyddiad gan yr heddlu sy'n dangos unrhyw alwadau allan, arestiadau neu rybuddion a oedd yn gysylltiedig â'r achos
Datganiadau ategol eilaidd
Gallwch hefyd anfon datganiadau ategol eilaidd i roi mwy o fanylion am eich amgylchiadau, ond ni ellir anfon y rhain fel tystiolaeth ar eu pen eu hunain.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ddatganiad ategol eilaidd:
- llythyr gan aelodau eraill o'ch teulu, ffrind i'r teulu neu bartner
- llythyr gan berson annibynnol sy'n nodi eich bod wedi dweud wrth y person hwn am eich amgylchiadau yn ddiweddar
- llythyr gan unrhyw un nad yw wedi'ch adnabod ers cyfnod hir, er enghraifft, datganiadau gan swyddog cymorth myfyrwyr eich prifysgol
- llythyr gan eich rhieni sy'n datgan yr ymddieithriad - byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyfathrebiad o fewn y 12 mis diwethaf ac nid yw'n ddilys i wirio'ch ymddieithriad
Efallai y gofynnir i chi roi datganiadau ategol bob tro y byddwch yn gwneud cais, ond bydd hyn yn cael ei adolygu fesul achos.
Rhestr wirio datganiadau ategol
Cyn i chi gyflwyno'ch datganiadau ategol, gwiriwch eich bod wedi cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Ydych chi wedi egluro'ch amgylchiadau?
Os ydych chi'n teimlo'n ddigon cyfforddus, esboniwch eich sefyllfa yn eich geiriau eich hun a gwnewch amserlen o ddigwyddiadau allweddol.
Ydych chi wedi darparu cymaint o ddatganiadau ag y gallwch?
Gallwch ddarparu cymaint o ddatganiadau ategol ag y dymunwch ond mae angen i o leiaf un o'r datganiadau hyn fod gan berson annibynnol sydd ag enw da yn y gymuned.
Gallai person sydd ag enw da yn y gymuned fod:
- yn aelod o staff eich ysgol neu goleg
- yn feddyg
- yn weithiwr cymdeithasol
- yn gwnselydd
- yn swyddog cymorth tai
- yn offeiriad neu weinidog, rabi neu imam
A yw eich datganiadau'n addas?
Gwnewch yn siŵr bod eich datganiadau gan bobl annibynnol ar bapur pennawd lle bo modd ac yn cynnwys rhif ffôn fel y gellir cysylltu â nhw.
Ydych chi wedi anfon eich holl ddatganiadau gyda'i gilydd?
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o ddarparu tystiolaeth yw ei lanlwytho i'ch cyfrif ar-lein
Os ydych chi'n anfon tystiolaeth drwy'r post, anfonwch eich holl ddatganiadau gyda'i gilydd yn yr un amlen lle bo modd. Cadwch gopïau o'ch datganiadau ategol o bob blwyddyn rydych chi'n eu cyflwyno.
Os ydych yn berson sy’n gadael gofal
Dylech gyflwyno llythyr gan yr awdurdod lleol, sy’n cadarnhau:
- i chi fod yng ngofal yr awdurdod
- eich bod yn awr wedi gadael gofal yr awdurdod
- eich bod yn berson sy’n gadael gofal, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Ffynonellau cymorth eraill
Os oes angen i chi siarad am rywbeth ar frys, gallwch gysylltu â'r Samariaid am gymorth.
Os ydych chi'n oroeswr cam-drin ac eisiau help i brosesu a deall eich gorffennol, cysylltwch â'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Pobl a Gam-driniwyd yn ystod Plentyndod am gymorth.
Os ydych chi'n profi ymddieithrio teuluol o ganlyniad i ddianc rhag priodas dan orfod neu gam-drin ar sail anrhydedd, gallwch gysylltu â Karma Nirvana am gymorth.