Cam 3: Cael eich cyllid myfyrwyr
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Eich Hysbysiad o Hawl

Mae hyn yn cadarnhau beth rydych yn ei gael a phryd.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon Hysbysiad o Hawl atoch. Mae hwn yn esbonio pa fath o gyllid i fyfyrwyr rydych chi'n ei gael, faint fyddwch chi'n ei gael a phryd i ddisgwyl i'ch taliadau gael eu gwneud.

Dylech bob amser ddarllen a chadw'r rhain. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich hawl a beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Gwiriwch fod y wybodaeth yn gywir

Pan fyddwch yn cael eich hysbysiad ar hawl - gwiriwch y canlynol:

  • faint y byddwch yn ei gael
  • pryd y byddwn yn eich talu
  • eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
  • a oes angen i chi anfon rhywbeth atom

Dweud wrthym os yw’r wybodaeth yn anghywir neu’n hen

Rhowch wybod i ni ar unwaith. Gallwch ddiweddaru rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth hon yn eich cyfrif cyllid myfyrwyr (yn agor mewn tab newydd).

Anfon unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth goll atom

Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth. Os byddwn yn gwneud hynny, dylech ei hanfon atom cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’r pethau mwyaf cyffredin y byddwn yn gofyn amdanynt yn cynnwys eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu neu’ch rhif Yswiriant Gwladol. Ni allwn eich talu heb yr holl fanylion y mae arnom eu hangen.

I ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol, lawrlwythwch yr ap CThEF (yn agor mewn tab newydd).

Ni fydd unrhyw Lwfans Myfyrwyr Anabl yn cael ei ddangos ar eich hysbysiad o hawl

Os ydych hefyd yn gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) byddwch yn cael llythyr Hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wahân yn cadarnhau hyn.

Os byddwch yn cael Hysbysiad o Hawl arall

Y rheswm tebygol am hynny yw ein bod wedi ailasesu’r hyn y mae gennych hawl iddo. Bydd y sydd â’r dyddiad diweddaraf bob amser yn disodli unrhyw lythyr yr ydych wedi’i gael yn barod.

Dylech ddarllen unrhyw lythyrau newydd yr ydych wedi’u cael, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod a oes unrhyw beth wedi newid. Os talwyd gormod o arian i chi, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ei ad-dalu’n gynharach nag y byddech yn ei wneud fel arfer.