Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2021  · Tagiwyd yn:  2021 i 2022  a  Cyllid myfyrwyr israddedig: Amser-llawn

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi agor erbyn hyn. Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (yn agor mewn tab newydd) website. Ni ddylai gymryd mwy na thua 30 munud iddynt wneud cais.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau y bydd angen iddynt wneud cais o’r newydd am eu cyllid myfyrwyr, a hynny hefyd drwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

Myfyrwyr newydd – 4 Mehefin

Myfyrwyr parhaus– 25 Mehefin

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer eto ar gwrs. Dylent roi manylion y cwrs y maent yn ei ffafrio i ni a’u newid yn nes ymlaen os oes angen.

Bydd y cyfnod i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhan-amser wneud cais yn agor yn yr haf.


Pa gyllid sydd ar gael yn 2021 i 2022?

Rhannwch ein tudalen ar gyfer ymgyrch 2021 i 2022 a’n ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ (yn agor mewn tab newydd) er mwyn rhoi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter a’n fideos ar YouTube yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Newyddion cysylltiedig

Mae’n bryd i fyfyrwyr llawn amser wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor!

Pecyn Perfformiad y DSA

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) gyda'n Pecyn Perfformiad DSA.

2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!