Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi agor erbyn hyn. Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru website. Ni ddylai gymryd mwy na thua 30 munud iddynt wneud cais.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau y bydd angen iddynt wneud cais o’r newydd am eu cyllid myfyrwyr, a hynny hefyd drwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

Myfyrwyr newydd – 4 Mehefin

Myfyrwyr parhaus– 25 Mehefin

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer eto ar gwrs. Dylent roi manylion y cwrs y maent yn ei ffafrio i ni a’u newid yn nes ymlaen os oes angen.

Bydd y cyfnod i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhan-amser wneud cais yn agor yn yr haf.


Pa gyllid sydd ar gael yn 2021 i 2022?

Rhannwch ein tudalen ar gyfer ymgyrch 2021 i 2022 a’n ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ er mwyn rhoi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter a’n fideos ar YouTube yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!