Paratoi myfyrwyr anabl ar gyfer prifysgol neu goleg

Gallai Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) eich cefnogi tra byddwch yn astudio – peidiwch â cholli allan.

Gwneud cais am gyllid myfyrwyr a Lwfans Myfyrwyr Anabl

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais am DSA yw ar-lein. Ond gallwch hefyd ei wneud ar ffurflen bapur, os yw'n well gennych.

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio'r blwch i ddweud eich bod am wneud cais am DSA. Yna dylech gwblhau gweddill eich cais am gyllid i fyfyrwyr a'i gyflwyno.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais am gyllid i fyfyrwyr, bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân am DSA. Fe welwch hwn yn eich rhestr ‘tasgau’ yn eich cyfrif ar-lein.

Peidiwch ag aros nes i ni gymeradwyo eich cais am gyllid i fyfyrwyr cyn i chi wneud cais am DSA gan y byddwn yn asesu’r rhain ar yr un pryd. Mae’n bwysig gwneud cais yn gynnar i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cymorth yn ei le cyn dechrau eich cwrs.

Help i gwblhau eich cais

Rydym yn deall y gall fod yn anodd cwblhau eich cais am DSA am wahanol resymau.

Os ydych chi’n cael trafferth cwblhau eich cais, gallwch gysylltu â’n tîm DSA a fydd yn gallu cynnig eu cymorth.

Gallwch hefyd siarad â'ch prifysgol, coleg neu ysgol, a allai fod â Swyddog Cyswllt Anabledd neu gynghorydd Lles a all hefyd eich helpu i lenwi'ch cais DSA.

Gwybodaeth am eich anabledd neu gyflwr

Fel rhan o’ch cais am DSA, bydd angen i chi roi rhai dogfennau ategol i ni am eich anabledd neu’ch cyflwr. Dylech geisio rhoi'r rhain i ni cyn gynted ag y gallwch. Mae hyn yn golygu y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i weithio allan pa help y gallwch ei gael cyn i'ch cwrs ddechrau.

I gael rhagor o wybodaeth am ba ddogfennau y gallwch eu hanfon atom, edrychwch ar ein tudalen cymhwyster.

Os ydych yn dal yn ansicr pa ddogfennau i’w hanfon atom ar gyfer eich cyflwr, gallwch gysylltu â’n tîm DSA am gymorth.

Cael eich cais i mewn yn gynnar

Po gynharaf y byddwch yn gwneud cais, y cynharaf y byddwch yn gallu trefnu eich asesiad o anghenion a chael unrhyw gymorth neu offer yn eu lle ar gyfer dechrau eich cwrs.

Gall gymryd hyd at 100 diwrnod i gael eich cymorth DSA yn ei le. Os bydd eich cwrs yn dechrau ym mis Medi, dylech gael eich cais i mewn erbyn dechrau mis Mehefin.

Os yw eich cais yn hwyr, efallai na fydd gennych y cymorth sydd ei angen arnoch ar gyfer dechrau eich cwrs. Mewn rhai achosion, mae myfyrwyr anabl wedi gorfod gadael eu cwrs oherwydd nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg i wneud cais am DSA, felly peidiwch ag aros am gynigion. Dylech wneud cais gan ddefnyddio'r dewis sydd orau gennych a gallwch ddiweddaru eich manylion os bydd unrhyw beth yn newid.

Os cewch ddiagnosis ar ôl i'ch cwrs ddechrau, gallwch wneud cais am DSA o hyd. Dylech wneud cais cyn gynted ag y gallwch.

Ar ôl i chi wneud cais a bod eich cais wedi’i gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch gyda manylion eich cyflenwr i drefnu eich asesiad o anghenion. Os byddwch yn rhoi caniatâd, byddwn yn trosglwyddo eich manylion yn uniongyrchol i’r cyflenwr a fydd mewn cysylltiad i drefnu hyn.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi fynychu asesiad anghenion, hyd yn oed os ydych wedi cael asesiad meddygol yn ddiweddar i gael eich adroddiad diagnostig, gan fod y rhain yn wahanol.

Beth i’w ddisgwyl o’ch ‘asesiad anghenion’

Nid prawf yw asesiad anghenion ond sgwrs. Byddwch yn siarad ag asesydd anghenion ynghylch sut mae eich anabledd neu gyflwr yn effeithio arnoch chi a sut y gallai effeithio arnoch tra byddwch yn astudio.

Byddwch yn siarad am ba gymorth ychwanegol y bydd ei angen arnoch i'ch helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau.

I'ch helpu i baratoi, efallai y byddwch am gael gwybod am y gwaith cwrs y byddwch yn ei wneud yn ystod eich astudiaethau, er mwyn rhoi syniad i chi o'r cymorth y gallai fod ei angen arnoch.

Dylech sicrhau eich bod yn anfon unrhyw dystiolaeth y mae eich cyflenwr wedi gofyn amdani at eich asesydd anghenion, cyn i chi fynychu eich asesiad anghenion. Dyma’r un dystiolaeth ag y byddwch wedi’i rhoi i ni fel rhan o’ch cais am DSA.

Mae'r asesiad anghenion yn gwbl gyfrinachol, ac fel arfer yn para 1-2 awr.

Gellir cwblhau eich asesiad anghenion yn bersonol neu ar-lein trwy alwad fideo. Gall eich cyflenwr ddarparu ar gyfer pa bynnag opsiwn sydd orau gennych. Byddwch yn cael cynnig detholiad o slotiau amser i ddewis ohonynt.

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn derbyn adroddiad gan eich aseswr anghenion gydag argymhellion o’r cymorth y bydd ei angen arnoch. Byddwn yn defnyddio’r adroddiad i weithio allan pa gymorth y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar eu hargymhellion ac yn anfon llythyr hawl i gadarnhau hyn. Bydd y llythyr hefyd yn cael ei anfon at eich cyflenwr a fydd yn trefnu eich cymorth offer.

Nawr eich bod yn gwybod sut i wneud cais am eich DSA, ymgeisiwch nawr i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ddechrau prifysgol neu goleg.