Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2021 · Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Tachwedd 2020  · Tagiwyd yn:  2021 i 2022 Cyllid myfyrwyr israddedig: Amser-llawn  a  Cyllid myfyrwyr israddedig: Rhan-amser

Gwybodaeth bwysig ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy’n dechrau ar gyrsiau yn ystod 2021 i 2022


Os ydych yn fyfyriwr o’r UE sy’n dechrau ar gwrs ar 1 Awst 2021 neu wedi hynny, rhaid bod gennych statws sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i gael cyllid myfyrwyr. Nid yw hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sy’n ddinasyddion Iwerddon.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yw 30 Mehefin 2021, ond rhaid eich bod wedi dechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r gofyniad hwn cyn eich bod yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr, oherwydd fel arall ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid gennym.

Dylech fynd i’r canllaw gwybodaeth am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (yn agor mewn tab newydd) ar Gov.uk i gael gwybod mwy am sut mae gwneud cais.

 

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2025 i 2026 ar agor yn awr.

Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr amser llawn!

Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 nawr ar agor!