Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026!
Faint allwch chi ei gael
Ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £19,255 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.
Ar gyfer cwrs Doethurol ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £29,130 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.
Sut mae’n cael ei dalu
Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.
Sut allwch chi ymgeisio
Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd!
Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.
Newyddion cysylltiedig
Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026!
Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr ôl-raddedig a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026 agor erbyn diwedd mis Ebrill.
Mae ceisiadau ôl-raddedig nawr ar agor ar gyfer 2022 i 2023!
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2021/2022 wedi agor erbyn hyn!