Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026!


Faint allwch chi ei gael

Ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £19,255 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.

Ar gyfer cwrs Doethurol ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £29,130 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.

Sut mae’n cael ei dalu

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.

Sut allwch chi ymgeisio

Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd!

Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.