Cyhoeddwyd: 10 Chwefror 2025 · Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Chwefror 2025
Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer 2025 i 2026!
Bydd ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer 2025 i 2026 yn agor erbyn diwedd Mawrth.
Mae’n amser i ddechrau paratoi! Gallwch ddarganfod beth sydd ar gael a chael llawer o wybodaeth bwysig ar ein tudalennau pwrpasol:
Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i gwblhau eich cais! Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg.
Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os gwnewch gais hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd!