Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2025 · Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mawrth 2025  · Tagiwyd yn:  2025 i 2026  a  Cyllid myfyrwyr israddedig: Amser-llawn

Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 nawr ar agor!


Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 nawr ar agor!

Ymgeisiwch nawr!

 

Gwiriwch pa gyllid i fyfyrwyr yr ydych yn gymwys i'w gael.

Os ydych yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o ddiwedd mis Ebrill 2025.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o ganol mis Mai 2025.

Myfyrwyr newydd

Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i gwblhau eich cais! Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg – gallwch ymgeisio nawr (yn agor mewn tab newydd) a diweddaru eich manylion yn ddiweddarach os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os gwnewch gais hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd!

Ewch i'n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i ddarganfod pa gyllid sydd ar gael i chi yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026

Myfyrwyr sy’n parhau

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n parhau, mewngofnodwch (yn agor mewn tab newydd) i'ch cyfrif ar-lein i wirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir. Dylech ail-ymgeisio cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn nesaf eich cwrs.

Newyddion cysylltiedig

Mae’n bryd gwneud cais am gyllid addysg bellach!

Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2025 i 2026 wedi agor erbyn hyn.

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2025 i 2026 ar agor yn awr.

2025 i 2026: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

Mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026 nawr ar agor!