2024 i 2025: Gallwch nawr wneud cais am LCA a GDLlC AB ar-lein!
Gwneud cais am LCA neu GDLIC AB yn 2024 i 2025? Gallwch nawr gyflwyno'ch cais ar-lein, heb orfod llenwi ffurflen bapur a'i phostio atom!
Dim ond tua 30 munud y mae'n ei gymryd i wneud cais ar-lein, dim ond creu cyfrif neu fewngofnodi.
Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni pan fyddwch yn gwneud cais
Mae’n helpu cael rhywfaint o wybodaeth wrth law pan fyddwch chi’n gwneud cais:
- Os oes gennych basbort dilys y DU bydd angen i chi roi manylion ohono, peidiwch â phoeni os nad oes gennych un, gallwch anfon gwybodaeth hunaniaeth arall atom yn lle hynny
- Manylion eich cyfrif banc
- Os ydych yn byw gyda’ch rhieni neu warcheidwaid, byddwn angen iddynt roi manylion eu hincwm
Os ydych chi eisoes wedi anfon cais papur atom
Nid oes angen gwneud cais ar-lein os ydych eisoes wedi postio’ch cais atom. Byddwn yn prosesu eich cais papur yn lle hynny. Gallai cyflwyno ail un ar-lein ohirio’r un papur rydych chi wedi’i anfon!
Newyddion cysylltiedig
2024 i 2025: Gallwch nawr wneud cais am LCA a GDLlC AB ar-lein!
Gallwch nawr gyflwyno'ch cais ar-lein, heb orfod llenwi ffurflen bapur a'i phostio atom!
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid Addysg Bellach!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn.