Cyhoeddwyd: 23 Ebrill 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2023
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn!
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn awr.
Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd, felly peidiwch â gwastraffu amser! Gwnewch gais yn awr neu mae’n bosibl na chewch eich talu mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.
Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024
Ewch i’n tudalennau i gael gwybod sut mae gwneud cais, faint o arian y gallwch ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.
I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig.