Gwnewch gais yn awr am gyllid myfyrwyr!
Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn!
Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer myfyrwyr o’r UE.
Bydd y cyfnod i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr yn agor yn yr haf.
Myfyrwyr newydd
Os ydych yn fyfyriwr newydd, dylech wneud cais erbyn 27 Mai 2022. Dim ond tua 30 munud y dylai ei gymryd i chi gwblhau eich cais! Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallwch wneud cais yn awr (yn agor mewn tab newydd) a diweddaru eich manylion yn nes ymlaen os oes angen.
Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd!
Ewch i’n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i gael gwybod pa gyllid sydd ar gael i chi yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023.
Myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau
Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau â’ch astudiaethau, mae gennych ddigon o amser i fewngofnodi (yn agor mewn tab newydd) i’ch cyfrif ar-lein i wirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir.
Mae gennych hyd at 17 Mehefin 2022 i wneud cais o’r newydd am gyllid.
Newyddion cysylltiedig
Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr amser llawn!
Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 nawr ar agor!
Bydd ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer 2025 i 2026 yn agor erbyn diwedd Mawrth.
Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer 2025 i 2026!
2024 i 2025: Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!
Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!