Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Lwfans Myfyrwyr Anabl

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall, a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau’n ymwneud ag astudio, er enghraifft cost offer, cost help nad yw’n help meddygol, costau teithio a chostau llungopïo ac argraffu.

Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i dalu rhai o’r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd cyflwr iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.

Gallwch gael help gyda chostau:

  • offer arbenigol, er enghraifft gliniadur os oes angen un arnoch oherwydd eich anabledd
  • cynorthwywyr nad ydynt yn staff meddygol, er enghraifft dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu gymerwr nodiadau arbenigol
  • costau teithio ychwanegol oherwydd eich anabledd, er mwyn mynychu eich cwrs neu’ch lleoliad
  • costau astudio eraill sy’n gysylltiedig â’ch anabledd, er enghraifft cost gorfod argraffu copïau ychwanegol o ddogfennau er mwyn eu prawf-ddarllen.

Beth sydd ar gael

Bydd y cymorth y gallwch ei gael a beth y gallwch wario’r arian arno yn dibynnu ar eich anghenion unigol yn hytrach nag incwm eich cartref.

Nid oes angen i chi ad-dalu Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Gall myfyrwyr israddedig llawn-amser a rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig gael hyd at:

  • £33,146 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024
  • £32,546 ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Gellir defnyddio’r arian i dalu am gostau offer arbenigol a chynorthwy-ydd nad yw’n gynorthwy-ydd meddygol a thalu costau mwy cyffredinol a allai fod gennych.

Mae lwfans teithio ar gael hefyd i dalu am unrhyw gostau teithio cysylltiedig ag astudio a allai fod gennych oherwydd eich anabledd.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n effeithio ar eich gallu i astudio, megis:

  • anhawster dysgu penodol, er enghraifft dyslecsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
  • anhwylder iechyd meddwl, er enghraifft gorbryder neu iselder
  • anabledd corfforol, er enghraifft os oes yn rhaid i chi ddefnyddio ffyn baglau, cadair olwyn neu fysellfwrdd arbennig
  • anabledd synhwyraidd, er enghraifft os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw neu os ydych yn fyddar
  • anhwylder iechyd hirdymor, er enghraifft canser, clefyd cronig y galon neu HIV.

Rhaid hefyd eich bod yn bodloni’r gofynion safonol ar gyfer bod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr (er enghraifft, y gofynion preswylio a’r categorïau myfyrwyr cymwys) er mwyn gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Gallwch hefyd gysylltu â chynghorwyr cyllid myfyrwyr eich prifysgol neu’ch coleg i drafod a yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom:

Mae canllaw i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ac egluro pa dystiolaeth sydd angen i chi ei hanfon:

Bydd angen i chi ailymgeisio am DSA bob blwyddyn. Fel arfer ni fydd angen i chi anfon mwy o dystiolaeth atom oni bai bod eich anghenion wedi newid.

Profi eich anabledd

Edrychwch yn eich cyfrif ar-lein neu ar y ffurflen gais i weld pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon atom. Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen tystiolaeth o anabledd:

Gallwch e-bostio eich tystiolaeth neu ffurflen at ein tîm DSA. Gellir anfon eich tystiolaeth drwy'r post hefyd.

Eich asesiad anghenion

Ar ôl i chi wneud cais a bod eich cais wedi’i gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch gyda manylion eich cyflenwr i drefnu eich asesiad o anghenion. Os byddwch yn rhoi caniatâd, byddwn yn trosglwyddo eich manylion yn uniongyrchol i’r cyflenwr a fydd mewn cysylltiad i drefnu hyn.

Dylech sicrhau eich bod yn lanlwytho unrhyw dystiolaeth cyn i chi fynychu eich asesiad o anghenion.

Bydd eich DSA yn talu am gost yr asesiad.

Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cael adroddiad asesu i ddweud wrthych pa offer a chymorth arall y gallwch ei gael ar gyfer eich cwrs.

Cael eich talu

Byddwn naill ai’n talu eich arian i’ch cyfrif banc neu’n ei dalu yn uniongyrchol i’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth neu’r offer. Os ydych wedi gwneud taliadau’n uniongyrchol i’r cyflenwr, gallwch hawlio’r costau’n ôl.

Dim ond ar gyfer costau sydd wedi'u cynnwys yn eich llythyr hawlio DSA2 y gallwch wneud cais.

Defnyddiwch y ffurflen hon os oes angen i chi hawlio ar gyfer costau yr ydych eisoes wedi’u talu: