Cam 5: Ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Ad-dalu eich cyllid myfyrwyr

Ein canllaw i ad-dalu, ar GOV.UK, yw’r lle gorau i gael gwybodaeth am ad-dalu eich cyllid myfyrwyr. Mae’n ymdrin â phynciau pwysig megis:

  • pryd y byddwch yn dechrau ac yn gorffen ad-dalu
  • faint y byddwch yn ei ad-dalu
  • sut mae ad-dalu â thaliadau gwirfoddol
  • cael ad-daliad
  • diweddaru manylion eich cyflogaeth

Sicrhau bod eich cyfrif yn gyfredol hyd yn oed ar ôl i chi orffen astudio

Bydd angen i ni allu cysylltu â chi i ddweud wrthych:

  • os oes unrhyw beth o’i le gyda’ch cyfrif neu’ch ad-daliadau
  • os ydych yn nesáu at ad-dalu eich benthyciad. Fel arall, mae’n bosibl y byddwch yn talu mwy nag y mae angen i chi ei wneud

Mae sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol nes bod eich benthyciad wedi’i ad-dalu yn llawn neu wedi’i ganslo yn rhan o’ch cytundeb cyllid myfyrwyr.

Cynllun dileu cyllid myfyrwyr yn rhannol

Pan fyddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at £1,500 o unrhyw falans Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr llawn-amser. Os byddwch yn cymryd benthyciad yn ystod mwy nag un flwyddyn academaidd, dim ond i’r Benthyciad Cynhaliaeth cyntaf a gymerwyd gennych y bydd y cynllun dileu’n berthnasol. Bydd y swm a gaiff ei ddileu’n dibynnu ar swm eich ad-daliad cyntaf. Gallwch gael gwybod mwy ar www.llyw.cymru/cyllid-myfyrwyr-y-cynllun-dileu-rhannol.

Enghraifft

Gwnaethoch gymryd Benthyciad Cynhaliaeth gwerth £1,000 yn ystod pob blwyddyn o gwrs a barodd am 4 blynedd, felly cyfanswm balans eich Benthyciad Cynhaliaeth yw £4,000 ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni. Rydych yn gwneud ad-daliad o £200 sydd wedi’i rannu yn gyfartal ar draws eich balans ar gyfer pob blwyddyn y gwnaethoch gymryd Benthyciad Cynhaliaeth (ad-daliad o £50 ar gyfer pob blwyddyn). Byddwn yn gallu dileu £950 o’ch balans gan mai dyna swm balans eich Benthyciad Cynhaliaeth cyntaf, ar ôl tynnu’r ad-daliad o £50 allan. Y balans fyddai’n weddill fyddai £2,850 ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni.

Enghraifft

Gwnaethoch gymryd un Benthyciad Cynhaliaeth yn unig gwerth £2,500 yn ystod ail flwyddyn cwrs a barodd am 4 blynedd. Cyfanswm balans eich Benthyciad Cynhaliaeth yw £2,500 ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni. Rydych yn gwneud ad-daliad o £200. Byddwn yn gallu dileu £1,500 o’ch balans. Y balans fyddai’n weddill fyddai £800 ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni.

Ein canllaw i ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr

Gwybodaeth am ad-dalu, gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ar GOV.UK