Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach
Beth sydd ar gael
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach yn grant a gaiff ei asesu ar sail incwm, sy’n ceisio annog mwy o bobl i barhau â’u haddysg.
Mae’n darparu arian i helpu talu costau eich addysg os ydych yn 19 mlwydd oed neu’n hŷn. Os ydych yn astudio cwrs amser llawn, gallech gael taliadau gwerth hyd at £1,500 y flwyddyn, neu os ydych yn astudio cwrs rhan-amser, gallech gael hyd at £750 y flwyddyn.
Newydd i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach yn 2024 i 2025?
Os yr ydych yn newydd i GDLLC AB, mae'r canllaw newydd yn cynnwys popeth yr ydych am ei wybod.