Costau byw – cymorth ariannol i fyfyrwyr


Gwyddom y gallech chi a phobl eraill yn eich cartref fod o dan bwysau ychwanegol ar hyn o bryd, oherwydd costau byw cynyddol. Dyma sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth cyllid myfyrwyr mwyaf y mae gennych hawl iddo a lle gallwch ddod o hyd i gymorth ychwanegol yn ystod eich astudiaethau. Mae'r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn.

Cael uchafswm y cyllid y mae gennych hawl iddo

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Gallech gael hyd at £9,250 y flwyddyn i helpu gyda ffioedd dysgu, yn dibynnu ar gostau eich cwrs. Byddwn yn talu’r benthyciad hwn yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg. Nid oes rhaid i chi ddechrau ei ad-dalu hyd nes i chi adael neu orffen eich cwrs.

Os na wnaethoch gais yn wreiddiol am uchafswm eich hawl i gael benthyciad, gallwch wneud hynny nawr drwy lenwi’r ‘ffurflen gais am fenthyciad ffioedd dysgu’.

Help gyda chostau byw

Gallech gael amrywiaeth o Fenthyciad Cynhaliaeth a Grant i’ch helpu gyda’ch costau byw.

Mae’r cydbwysedd rhwng faint o fenthyciad a gewch, a faint o grant y gallwch gael yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble ydych chi'n byw ac astudio.

Does dim rhaid i chi ddechrau ei dalu’n ôl nes eich bod wedi gorffen neu adael eich cwrs. Nid oes rhaid talu eich grant yn ôl.

Darganfyddwch faint o gyllid i fyfyrwyr y gallech fod â hawl iddo ar ein tudalen beth sydd ar gael.

Gwnewch gais am yr uchafswm gan ddefnyddio incwm eich cartref

Os nad ydych wedi rhoi incwm eich cartref i ni a dim ond wedi gwneud cais am isafswm y Grant Cynhaliaeth, mae amser o hyd i gael mwy os ydych yn gymwys!

Dysgwch sut i roi manylion incwm eich cartref i ni.

Cael mwy o grant os yw incwm eich cartref wedi gostwng

Gallech fod yn gymwys i gael swm uwch o grant na benthyciad os yw incwm eich cartref wedi gostwng y flwyddyn dreth hon.

Edrychwch i weld a ydych yn gymwys ar gyfer asesiad incwm y flwyddyn gyfredol a darganfod sut i wneud cais.

Mynnwch fwy os ydych chi nawr yn byw i ffwrdd o gartref eich rhiant

Os ydych yn byw oddi cartref am y rhan fwyaf o'r flwyddyn academaidd, gallai hyn effeithio ar eich cydbwysedd benthyciad i grant.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ble rydych chi’n byw. Drwy wneud hynny, gallwn sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.

Darganfyddwch faint allwch chi ei gael yn seiliedig ar eich lleoliad byw ar ein tudalen beth sydd ar gael.

Cofiwch ddweud wrthym os bydd eich amgylchiadau'n newid

Dywedwch wrthym os:

  • byddwch yn newid eich cyfeiriad
  • mae incwm eich cartref wedi gostwng
  • rydych am newid swm y benthyciad y gofynnoch amdano

Gallai rhai o’r newidiadau hyn effeithio ar faint o Fenthyciad neu Grant Cynhaliaeth rydych yn ei gael.

Felly, dywedwch wrthym am unrhyw newid yn eich amgylchiadau i wneud yn siŵr eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.

Grantiau, bwrsariaethau a chymorth ychwanegol

Cymorth ychwanegol

Mae gennym grantiau ar gael os oes gennych chi:

  • blant neu oedolion dibynnol
  • anabledd
  • cyflwr iechyd hirdymor
  • cyflwr iechyd meddwl
  • anhawster dysgu

Os oes gennych chi blant neu oedolion dibynnol, gallwch wneud cais am:

Os oes gennych chi anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol (fel dyslecsia) gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, bydd unrhyw gyllid y mae gennych hawl iddo yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau eich cwrs.

Bwrsariaethau, ysgoloriaethau a grantiau

Siaradwch â gwasanaeth cyngor ariannol eich prifysgol neu goleg i weld a ydych yn gymwys i gael arian ychwanegol. Mae gan bob prifysgol a choleg ei reolau ei hun ynghylch bwrsariaethau, ysgoloriaethau, grantiau a dyfarniadau, felly gofynnwch a allwch gael unrhyw help. Mae gan lawer o brifysgolion a cholegau hefyd gronfeydd caledi y gall myfyrwyr wneud cais amdano.

Efallai y byddwch yn gallu cael bwrsariaethau, ysgoloriaethau a grantiau ychwanegol trwy sefydliadau neu elusennau eraill. Mae gan Save the Student restr o'r lleoedd gorau i ddod o hyd i gymorth ychwanegol.

Adnoddau a chymorth ychwanegol

Mae yna sefydliadau eraill sy’n cynnig awgrymau defnyddiol a chymorth. Nid yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gyfrifol am y cynnwys ar unrhyw un o’r gwefannau hyn. Cymrwch olwg ar:

Mae rhai cyfrifon banc myfyrwyr yn y DU yn dod â buddion ychwanegol. Cymrwch olwg ar ganllaw Money Saving Expert i weld y cynigion bancio gorau i fyfyrwyr.

Edrychwch i weld pa ostyngiadau sydd ar gael i fyfyrwyr gan gynnwys manwerthu, teithio a threth y cyngor. Gallwch ddod o hyd i fargeinion ar dudalen gostyngiadau myfyrwyr UCAS.