2023 i 2024: Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn helpu myfyrwyr i fod yn barod!
Mae disgwyl i’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr i astudio cyrsiau israddedig llawn-amser yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024 ddechrau ym mis Ebrill 2023.
Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau wedi dechrau!
Anogwch eich myfyrwyr i fynd i’n tudalen a ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ cyn gwneud cais er mwyn cael mwy o wybodaeth am y mathau o gyllid y gallant wneud cais amdanynt.
Helpwch ni i rannu gwybodaeth am y rhestr bostio, trwy ei rhannu ar eich cyfrifon chi ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy rannu ac aildrydar ein negeseuon ni.
Fyddwch chi’n astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-raddedig?
Disgwylir i’n ceisiadau israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser agor yn ddiweddarach yn 2023, felly cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd) i gael diweddariadau rheolaidd am gyllid myfyrwyr.
Newyddion cysylltiedig
Mae’n bryd i fyfyrwyr llawn amser wneud cais am gyllid myfyrwyr!
Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor!
Pecyn Perfformiad y DSA
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) gyda'n Pecyn Perfformiad DSA.
2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!
Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!