Canllaw i amodau a thelerau 2025 i 2026


Cynnwys

Rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi i anfon ymateb.

Gallwch archebu ffurflenni a chanllawiau ar ffurf Braille, mewn print mawr neu sain trwy anfon e-bost gyda’ch enw a chyfeiriad, a phaffurf a fformat ydych chi angen at brailleandlargefonts@slc.co.uk.

Neu gallwch ein ffonio ni ar 0141 243 3686.

Sylwer, dim ond ceisiadau am fformatau amgen o’n ffurflenni a chanllawiau y bydd y cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn uchod yn ymdrin â nhw.

1. Am beth mae’r canllawyn sôn?

Mae’r canllaw hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n cymryd benthyciad myfyrwyr ar gyfer cwrs israddedig, ôl-raddedig neu Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Mae’n esbonio i beth ydych chi’n ymrwymo pan fyddwch yn cymryd benthyciad.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y canllaw hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am amodau eich benthyciad.

Byddwch yn dod o hyd i fanylion llawn yr amodau i gael benthyciadau i fyfyrwyr israddedig yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr perthnasol.

Fe welwch fanylion llawn yr amodau ar gyfer cael Benthyciadau Meistr a Doethurol Ôl-raddedig yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr perthnasol.

Fe welwch fanylion llawn yr amodau ar gyfer cael Benthyciad Doethurol Ôl-raddedig yn Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) 2018, fel y diwygiwyd.

Gallwch ddarllen y rheoliadau hyn ar-lein ar www.legislation.gov.uk neu eu harchebu gan Y Llyfrfa trwy ffonio 0333 202 5070 neu fynd i www.tsoshop.co.uk.

Gall y rheoliadau newid o bryd i’w gilydd, sy’n golygu y gall amodau eich benthyciad hefyd newid. Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau, felly dylech sicrhau bod gennych gopi o’r fersiwn ddiweddaraf.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o hyd ynghylch amodau eich benthyciad wedi darllen y canllaw hwn, ewch i www.gov.uk/repaying-your-student-loan.

2 Eich contract benthyciad

Pan fyddwch chi’n cymryd benthyciad i fyfyrwyr, rhaid i chi gytuno i ad-dalu eich benthyciad yn unol â’r rheoliadau sy’n berthnasol ar y pryd pan fydd yr ad-daliadau’n ddyledus, yn amodol i ddiwygio’r rheoliadau o bryd i’w gilydd.

Mae eich contract benthyciad gyda Gweinidogion Cymru. Mae’r Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr Cyfyngedig (SLC) sy’n sefydliad llywodraeth nad yw’n gwneud elw, yn gweithredu fel asiant ar eu rhan.

3 Pwy sy’n gwneud beth?

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Mae’r SLC yn gyfrifol am:

  • dalu benthyciadau ar gyfer myfyrwyr yn y Deyrnas Unedig
  • reoli eich cyfrif, gan gynnwys ychwanegu llog, rhoi ad-daliadau a gasglwyd trwy system dreth y DU ar waith ac ad-dalu unrhyw ordaliadau
  • gasglu taliadau gan ad-dalwyr o dramor
  • ateb cwestiynau am eich benthyciad

Cyllid a Thollau EM (HMRC)

Mae HMRC yn casglu ad-daliadau benthyciad myfyriwr gan gyflogwyr trwy system dreth y Deyrnas Unedig. Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn ad-dalu trwy hunanasesiad pan fyddwch chi’n cwblhau eich ffurflen dreth.

Eich cyflogwr

Mae eich cyflogwr yn casglu ad-daliadau benthyciad myfyrwyr ar ran HMRC yn uniongyrchol o’ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut y cesglir ad-daliadau trwy’r system dreth, siaradwch â’ch cyflogwr.

Rhannu gwybodaeth

Gall HMRC roi gwybodaeth i SLC yn gyfreithlon am eich ad-daliadau, ond ni fyddant yn rhoi unrhyw wybodaeth i SLC am eich trefniadau treth, gan fod y rhain yn gyfrinachol.

Hefyd, ni fydd eich cyflogwr na HMRC yn derbyn unrhyw fanylion am eich benthyciad myfyriwr, ar wahân i’r ffaith bod gennych chi fenthyciad a’r trothwy ad-dalu perthnasol i chi.

4 Eich cyfrifoldebau

Mae angen i chi ddarparu gwybodaeth gyflawn a chywir

Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad, rhaid i chi roi gwybodaeth gyflawn a chywir i ni, er mwyn i ni allu casglu ad-daliadau pan fyddant yn ddyledus.

Rhaid i chi ddweud wrth SLC am unrhyw newidiadau i’r manylion hyn:

  • yn ystod broses ymgeisio,
  • tra byddwch chi yn y brifysgol neu goleg
  • nes eich bod wedi ad-dalu eich benthyciad yn llawn

Os nad ydych chi’n rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol i SLC, efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl cosb neu ad-dalu’r benthyciad ac unrhyw log a chosbau mewn un cyfandaliad.

Os oes gennych chi fenthyciad Cynllun 2 ac nad ydych yn cadw mewn cysylltiad â ni, neu’n rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol, fel arfer fe godir cyfradd llog o RPI plws 3% ar eich benthyciad beth bynnag yw eich incwm.

Rhaid i chi hefyd roi gwybod i SLC os ydych:

  • yn newid eich enw, rhif ffôn neu fanylion y cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y telir y benthyciad iddo
  • yn newid eich prifysgol, coleg neu gwrs,
  • yn cael bwrsariaeth, dyfarniad gofal iechyd neu ysgoloriaeth
  • Newid unrhyw gyfeiriad a ddarparwyd gennych
  • yn gwybod bod dyddiadau cychwyn neu orffen eich cwrs wedi newid
  • ddim yn dechrau astudio, yn gadael eich cwrs neu’n cael eich gwahardd
  • yn absennol am gyfnod am unrhyw reswm ar wahân i salwch
  • yn priodi
  • yn bwriadu gadael y wlad
  • yn newid eich statws cyflogaeth (er enghraifft o gyflogedig i hunangyflogedig)

Rhaid i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol (NINO) pan fyddwch chi’n ymgeisio. Ni all SLC brosesu eich cais heb hyn, oni bai eich bod yn fyfyriwr sydd heb NINO. Dylai myfyrwyr sydd â NINO ei ddarparu pan fyddant yn ymgeisio. Bydd SLC yn cadarnhau’r NINO gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i osgoi ceisiadau twyllodrus.

Bydd HMRC hefyd angen y manylion hyn er mwyn gallu casglu eich ad-daliadau. Os nad oes gennych chi NINO, neu os ydych chi wedi ei golli, dylech ffonio’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3500.

Bydd ad-daliadau a gesglir gan eich cyflogwr yn cael eu nodi ar eich slip cyflog. Dylech gadw cofnod o’r ad-daliadau hyn fel eich bod yn gwybod faint o’ch benthyciad ydych chi wedi ei dalu’n ôl.

Os byddwch yn mynd i gytundeb benthyciad gydag SLC cyn eich bod yn 18 oed, fe ofynnir i chi ‘gadarnhau’ y trefniant (neu drefniadau) unwaith y byddwch yn 18 oed. Mae cadarnhau eich benthyciad yn golygu y byddwch yn datgan yn ffurfiol eich bod yn cytuno i’r benthyciad. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, fyddwch chi ddim yn gallu cael rhagor o gyllid i fyfyrwyr wedi i chi droi’n 18 oed. Unwaith y byddwch chi’n 18 oed neu’n hŷn, byddwch yn cadarnhau unrhyw gytundeb benthyciad a wnaethpwyd cyn eich bod yn 18 oed pan fyddwch chi’n cytuno i’r amodau a thelerau ar gyfer unrhyw gyllid i fyfyrwyr pellach. Os cytunoch i fenthyciad cyn eich bod yn 18 oed ac nad ydych yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr pellach, bydd SLC yn cysylltu â chi i gadarnhau’ch benthyciad, er mwyn sicrhau na effeithir ar eich cymhwyster am gyllid i fyfyrwyr yn y dyfodol.

Mae angen i chi ad-dalu eich benthyciad

Dan y gyfraith, rhaid i chi ad-dalu eich benthyciad yn unol â chontract y benthyciad a’r rheoliadau. I’r rhan fwyaf o bobl, bydd ad-daliadau yn cael eu casglu trwy system dreth y Deyrnas Unedig gyda chyflogwyr yn cymryd symiau o’u cyflog trwy’r system Talu wrth Ennill (TWE). Os ydych chi’n hunanasesu, er enghraifft, os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn gwneud taliadau trwy hunanasesiad ar yr un adeg ag y byddwch yn talu treth. Os byddwch chi’n byw dramor byddwch yn ad-dalu’n eich benthyciad yn uniongyrchol i SLC.

Atebolrwydd benthyciad

Mae bod yn ‘atebol’ am y cyfan neu ran o’ch benthyciad yn golygu y bydd unrhyw daliadau a wneir i chi neu i’ch prifysgol neu goleg yn cael eu hychwanegu i falans eich benthyciad. Golyga hyn pan fyddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs, bydd angen i chi ddechrau ad-dalu’r swm hwnnw a’r llog sydd wedi cronni. Byddwch yn atebol am unrhyw fenthyciad a dalwyd i chi p’un a ydych yn gorffen eich cwrs neu sicrhau cymhwyster neu beidio.

Benthyciadau Cynhaliaeth

Telir benthyciadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi ar ddechrau pob tymor. Byddwch yn atebol am bob rhandaliad unwaith y bydd wedi ei dalu i chi.

Benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig a Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig

Telir y Benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig a Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn uniongyrchol i chi ar ddechrau pob tymor. Byddwch yn atebol am bob rhandaliad unwaith y bydd wedi ei dalu i chi.

Benthyciadau Ffioedd Dysgu

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn, byddwch yn atebol am ganran o’ch Benthyciad Ffioedd Dysgu ar ddechrau pob tymor ar ôl i’ch prifysgol neu goleg gadarnhau’ch presenoldeb ar y cwrs. ar ôl i’ch prifysgol neu goleg gadarnhau’ch presenoldeb ar y cwrs. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn atebol am ganran o’ch Benthyciad Ffioedd Dysgu wedi i chi fod ar eich cwrs am bythefnos.

Byddwch yn dod yn atebol am randaliadau pellach ar ddechrau ail a thrydydd tymor eich cwrs, fel y gwelir yn y tabl isod. Byddwch yn parhau i fod yn atebol ar gyfer y swm yma hyd yn oed os byddwch yn tynnu’n ôl, trosglwyddo neu atal eich astudiaethau yn hwyrach.

Pryd fyddwch chi’n dod yn atebol Am faint fyddwch chi’n atebol

Ar ddechrau tymor 1

25% o’r ffi dysgu

Ar ddechrau tymor 2

50% o’r ffi dysgu

Ar ddechrau tymor 3

100% o’r ffi dysgu

Gordaliad grant a benthyciad

Gwneir eich taliadau cyllid i fyfyrwyr ar ddechrau pob tymor i helpu gyda chostau ar gyfer y tymor llawn i ddod.

Os, am ba bynnag reswm, y bydd eich hawl ar gyfer y flwyddyn academaidd yn cael ei ailasesu a’i leihau, gallai hyn arwain at dalu gormod i chi. Mae hyn yn beth a alwn yn ‘ordaliad’.

Enghraifft

Rydych yn cael Benthyciad Cynhaliaeth o £6,000, a delir i chi dros dri thymor.

Fe delir £2,000 i chi ar ddechrau tymor 1.

Fe delir £2,000 arall i chi ar ddechrau tymor 2.

Rydych yn gadael eich cwrs yn ystod tymor 2, sy’n golygu nad oes gennych hawl i’r £2,000 llawn sydd eisoes wedi ei dalu i chi.

Mae hyn yn golygu eich bod nawr wedi derbyn gordaliad.

Mae hyn yn golygu bod angen i chi ad-dalu gordaliad eich benthyciad ar wahân ac yn gynharach na gweddill balans eich benthyciad. Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes ad-daliadau eisoes yn cael eu casglu o’ch cyflog neu ffurflen dreth.

Gordaliad benthyciad yn arian sydd eisoes wedi ei dalu i chi, nad oes gennych hawl i’w gadw mwyach oherwydd newid yn eich amgylchiadau. Mae hyn yn golygu bod rhaid talu hyn yn ôl nawr.

Mewn rhai achosion, gellir adfer gordaliadau benthyciadau a grantiau o gyllid i fyfyrwyr yn y dyfodol.

Nid yw gordaliadau benthyciad yn amodol i amodau a thelerau arferol benthyciad. Yn seiliedig ar reoliadau’r llywodraeth, mae gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i adfer unrhyw ordaliad benthyciad neu grant.

5 Eich cynllun ad-dalu

Bydd sut a phryd fyddwch yn ad-dalu eich benthyciad yn dibynnu ar ba bryd ddechreuoch eich cwrs.

Chwiliwch am y blychau lliw sy’n esbonio’r broses ad-daliad sy’n berthnasol i chi.

Cynllun ad-dalu 1 - Os dechreuoch eich cwrs cyn 1 Medi 2012

Cynllun ad-dalu 2 - Os dechreuoch eich cwrs ar neu wedi 1 Medi 2012

Benthyciad Ôl-raddedig - Os dechreuoch gwrs Meistr neu Ddoethuriaeth ôl-raddedig ar neu wedi 1 Awst 2018

Cynllun ad-dalu 1

Bydd disgwyl i chi ddechrau talu’r benthyciad yn ôl y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs.

Dim ond pan fydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £24,990 y flwyddyn, £2,082 y mis neu £480 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, fyddwch chi’n dechrau talu ad-daliadau.

Os yw’ch incwm yn gostwng yn is na’r trothwy ad-dalu, bydd eich ad-daliadau yn stopio a dim ond yn ailddechrau pan fydd eich incwm dros y trothwy unwaith eto.

Bydd y trothwy hwn yn cael ei gynyddu mewn blynyddoedd i ddod.

Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol gwirfoddol i SLC ar unrhyw adeg.

Cynllun ad-dalu 2

Os ydych chi’n fyfyriwr amser llawn, bydd disgwyl i chi ddechrau talu’ch benthyciad yn ôl yn y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs.

Os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser bydd disgwyl i chi ddechrau ad-dalu eich benthyciad y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs, neu’r mis Ebrill bedair blynedd wedi cychwyn eich cwrs (hyd yn oed os ydych chi’n dal i astudio), pa bynnag un sy’n dod gyntaf.

Dim ond pan fydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £27,295 y flwyddyn, £2,274 y mis neu £524 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, fyddwch chi’n dechrau talu ad-daliadau. Os yw’ch incwm yn gostwng yn is na’r trothwy ad-dalu, bydd eich ad-daliadau yn stopio a dim ond yn ailddechrau pan fydd eich incwm dros y trothwy unwaith eto.

Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol gwirfoddol i SLC ar unrhyw adeg.

Benthyciad Ôl-raddedig

Os ydych chi’n fyfyriwr Gradd Meistr, bydd disgwyl i chi ddechrau talu’ch benthyciad yn ôl yn y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs.

Os ydych chi’n fyfyriwr Gradd Doethuriaeth , bydd disgwyl i chi ddechrau ad-dalu eich benthyciad y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs, neu’r mis Ebrill bedair blynedd wedi cychwyn eich cwrs (hyd yn oed os ydych chi’n dal i astudio), pa bynnag un sy’n dod gyntaf.

Dim ond pan fydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn, £1,750 y mis neu £403 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, fyddwch chi’n dechrau talu ad-daliadau. Os yw’ch incwm yn gostwng yn is na’r trothwy ad-dalu, bydd eich ad-daliadau yn stopio a dim ond yn ailddechrau pan fydd eich incwm dros y trothwy unwaith eto.

Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol gwirfoddol i SLC ar unrhyw adeg.

Bydd faint fyddwch yn ei ad-dalu yn ddibynnol ar eich incwm ac nid faint a fenthycwch. Dylech roi gwybod i’ch cyflogwr pa gynllun ad-dalu sy’n berthnasol i chi er mwyn iddynt gymryd y swm cywir.

Cynllun ad-dalu 1

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £24,990 y flwyddyn, £2,082 y mis neu £480 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig. Os bydd eich incwm yn newid, trwy godi neu ostwng, bydd symiau eich ad-daliadau yn newid yn awtomatig i adlewyrchu hyn.

Incwm pob blwyddyn cyn treth Incwm misol cyn treth Amcangyfrif o’r ad-daliad misol
£24,990 £2,082 £0
£26,000 £2,166 £7
£28,000 £2,333 £22
£30,000 £2,500 £37
£35,000 £2,916 £75

Cynllun ad-dalu 2

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £27,295 y flwyddyn, £2,274 y mis neu £524 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig. Os bydd eich incwm yn newid, trwy godi neu ostwng, bydd symiau eich ad-daliadau yn newid yn awtomatig i adlewyrchu hyn.

Incwm pob blwyddyn cyn treth Incwm misol cyn treth Amcangyfrif o’r ad-daliad misol
£27,295 £2,274 £0
£28,000 £2,333 £5
£29,500 £2,458 £16
£31,000 £2,583 £27
£33,000 £2,750 £42

Benthyciad Ôl-raddedig

Byddwch yn ad-dalu 6% o’ch incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn, £1,750 y mis neu £403 yr wythnos ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig. Os bydd eich incwm yn newid, trwy godi neu ostwng, bydd symiau eich ad-daliadau yn newid yn awtomatig i adlewyrchu hyn.

Incwm pob blwyddyn cyn treth Incwm misol cyn treth Amcangyfrif o’r ad-daliad misol
£21,000 £1,750 £0
£22,000 £1,833 £4
£23,500 £1,958 £12
£25,000 £2,083 £19
£27,000 £2,250 £30
£30,000 £2,500 £45

Ad-dalu os yw’ch incwm yn is na’r trothwy

Os ydych chi’n gyflogedig ac mae eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy ad-dalu, byddwch yn dal i allu gwneud ad-daliadau benthyciad myfyriwr os yw’ch incwm yn mynd dros y trothwy wythnosol neu fisol ar unrhyw adeg. Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio oriau ychwanegol neu’n cael bonws, gallai hyn fynd â’ch cyflog uwchben y trothwy ar gyfer yr wythnos neu fis yna.

Gallwch gael yr ad-daliadau hyn yn ôl ar ddiwedd flwyddyn dreth, ond dim ond os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy ad-dalu blynyddol ar gyfer eich benthyciad. Dydy hyn ddim yn digwydd yn awtomatig, felly bydd angen i chi gysylltu ag SLC os hoffech chi gael ad-daliad.

Gwneud ad-daliadau ychwanegol

Gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol ar unrhyw adeg.

Fodd bynnag, ni fydd unrhyw ad-daliadau gwirfoddol a wnewch yn effeithio ar y swm a gesglir trwy’r system dreth. Felly, os ydych yn gyflogedig, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr dynnu’r swm arferol o’ch cyflog o hyd.

Os ydych chi dramor, ni fydd gwneud ad-daliadau gwirfoddol yn effeithio ar faint fydd angen i chi ad-dalu pob mis.

Os ydych yn ad-dalu trwy hunanasesu, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r swm sy’n ddyledus o hyd, yn seiliedig ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn.

Ni fydd modd i chi gael ad-daliad am unrhyw symiau y byddwch yn eu talu yn wirfoddol, oni bai eich bod wedi gorffen ad-dalu’ch benthyciad, a’ch bod wedi ad-dalu gormod.

Dysgwch sut i wneud ad-daliadau gwirfoddol yn www.gov.uk/repaying-your-student-loan.

Beth os oes gennych chi fwy nag un math o gynllun?

Os oes gennych chi fwy nag un math o fenthyciad, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd, cyn belled â bod eich incwm dros y trothwy ad-dalu.

Dyma rai enghreifftiau o sut allai weithio yn seiliedig ar drothwyon presennol y Deyrnas Unedig:

Benthyciadau Cynllun 1 a Chynllun 2

Os yw’ch incwm misol rhwng £2,082 a £2,274 fyddwch chi ddim ond yn gwneud ad-daliadau tuag at eich benthyciad Cynllun 1. Fodd bynnag, os yw’ch incwm misol yn fwy na £2,274, bydd eich ad-daliadau wedi eu lledaenu ar draws eich benthyciadau Cynllun 1 a 2.

Fyddwch chi ddim ond yn ad-dalu 9% o’ch incwm misol dros £2,082 – fydd dim rhaid i chi dalu 9% arall tuag at eich ail fenthyciad.

Benthyciad Cynllun 2 ac Ôl-raddedig

Os yw’ch incwm misol rhwng £1,750 a £2,274 byddwch yn gwneud ad-daliadau tuag at eich Benthyciad Ôl-raddedig yn unig. Os yw’ch incwm misol dros £2,274, byddwch hefyd yn gwneud addaliadau tuag at eich benthyciad Cynllun 2.

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm misol dros £2,274 tuag at eich benthyciad Cynllun 2 a 6% o’ch incwm misol dros £1,750 tuag at eich Benthyciad Ôlraddedig.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae ad-dalu yn gweithio os oes gennych fwy nag un math o gynllun yn www.gov.uk/repaying-your-student-loan

Canslo rhannol o’r Benthyciad Cynhaliaeth

Os cawsoch chi Fenthyciad Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru unrhyw bryd o’r flwyddyn academaidd 2010/11 ymlaen, gallai Llywodraeth Cymru ganslo hyd at £1,500 o falans eich benthyciad i fyfyrwyr cyn chi ddechrau ad-dalu.

Gallwch ganfod mwy am ganslo Benthyciad Cynhaliaeth rhannol Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru/cyllid-myfyrwyr-y-cynllun-dileu-rhannol.

Faint o log a godir arnoch

Codir llog ar eich benthyciad o’r diwrnod y rhoddwn y taliad cyntaf i chi neu’ch prifysgol nes y bydd wedi ei ad-dalu’n llawn neu ei ganslo. Rydym yn cyfrifo’r llog yn ddyddiol a’i ychwanegu i’ch balans pob mis - gelwir hyn yn ‘adlog’. Mae’r gyfradd llog a godir arnoch yn ddibynnol ar ba gynllun ad-dalu ydych chi arno.

Mae’r gyfradd llog yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Manwerthu, neu RPI, sy’n fesur o chwyddiant. Mae’n mesur newidiadau i gost byw yn y Deyrnas Unedig.

Gallwch weld yr wybodaeth fwyaf cywir a chyfredol ar gyfraddau llog ar www.gov.uk/repaying-your-student-loan.

Cynllun ad-dalu 1

Y gyfradd llog fydd yr RPI yn y mis Mawrth blaenorol, neu 1% yn uwch na chyfradd sylfaenol uchaf grŵp enwebedig o fanciau (Cyfradd Sylfaenol y Banciau), pa un bynnag yw’r isaf.

Cynllun ad-dalu 2

Mae’r gyfradd llog yn seiliedig ar RPI a bydd yn amrywio yn ddibynnol ar eich amgylchiadau. Yn ystod rhai cyfnodau, gallwch weithredu terfyn llog dros dro i sicrhau na chodir cyfradd llog uwch na’r cyfartaledd a geir yn y farchnad fasnachol arnoch. I gael gwybod mwy am log, ewch i www.gov.uk/guidance/how-interest-is-calculated-plan-2.cy.

Eich amgylchiadau Llog

Myfyrwyr amser llawn – tra’ch bod yn astudio hyd at 6 Ebrill wedi i chi gwblhau neu adael eich cwrs.

Myfyrwyr rhan-amser – tra’ch bod yn astudio a hyd at 6 Ebrill wedi ei chi gwblhau neu adael eich cwrs, neu’r 6 Ebrill bedair blynedd wedi dechrau eich cwrs, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Fel arfer RPI plws 3%

O’r Ebrill wedi i chi orffen eich cwrs nes bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu’n llawn.

Myfyrwyr rhan-amser – o 6 Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, neu o 6 Ebrill 4 blynedd ar ôl dechrau’ch cwrs.

Bydd llog yn seiliedig ar eich incwm:

• £27,295 neu lai = RPI

• rhwng £27,295 a £49,130 = RPI plws hyd at 3%, yn ddibynnol ar incwm

• dros £49,130 = Fel arfer RPI plws 3%

Os nad ydych yn cadw mewn cysylltiad â ni, neu os nad ydych yn ein cynghori o newidiadaui unrhyw rai o’ch manylion personol.

Codir RPI plws 3% fel arfer ar eich benthyciad beth bynnag yw’ch incwm, nes bydd gennym yr holl wybodaeth rydym ei hangen.

Benthyciad Ôl-raddedig

Codir llog arnoch o’r diwrnod pan fyddwn yn gwneud y taliad cyntaf i chi nes bydd eich benthyciad wedi ei ad-dalu’n llawn neu ei ganslo. Codir llog ar RPI plws hyd at 3%. Yn ystod rhai cyfnodau, gallwch weithredu terfyn llog dros dro i sicrhau na chodir cyfradd llog uwch na’r cyfartaledd a geir yn y farchnad fasnachol arnoch. I gael gwybod mwy am log, ewch i www.gov.uk/guidance/how-interest-is-calculated-postgraduate-loan.cy

6 Sut fyddwch chi’n ad-dalu

Cesglir ad-daliadau trwy system dreth y Deyrnas Unedig os ydych chi’n gyflogedig, neu trwy hunanasesiad os ydych chi’n hunangyflogedig.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gyflogedig

Os ydych chi’n gyflogai yn talu treth yn y Deyrnas Unedig, bydd eich cyflogwr yn casglu ad-daliadau o’ch tâl, ynghyd â threth ac Yswiriant Gwladol. Byddwch yn gweld y didyniadau ar eich slip cyflog.

Bydd SLC yn rhoi gwybod i HMRC pan fyddwch chi’n gorffen neu adael eich cwrs ac yn rhoi manylion iddynt fel eich enw a rhif Yswiriant Gwladol. Bydd HMRC yn gwirio i weld os ydych chi’n gweithio ac os ydych, byddant yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr fod gennych chi fenthyciad (ond nid faint sy’n ddyledus).

Dylech hefyd roi gwybod i’ch cyflogwr newydd fod gennych chi fenthyciad myfyriwr.

Sut mae cyflogwyr yn gwybod faint i’w ddidynnu o’ch tâl

Bydd HMRC darparu arweiniad i gyflogwyr, gan gynnwys y trothwyon ad-dalu ar gyfer pob math o gynllun, er mwyn iddynt wybod faint i gymryd o’ch cyflog.

Os yw’ch tâl yn uwch na’r trothwy ad-dalu ar gyfer eich benthyciad, bydd eich cyflogwr yn cymryd ad-daliadau ac yn eu trosglwyddo i HMRC. Bydd HMRC yn anfon yr wybodaeth hon at SLC, a fydd yn diweddaru’ch cyfrif.

Mae’n bwysig deall y bydd ad-daliadau a gesglir gan eich cyflogwr yn cael eu cyfrifo ar gyfnodau tâl unigol – nid ar gyfanswm eich incwm ar gyfer blwyddyn gyfan. Golyga cyfnod tâl pa mor aml fyddwch chi’n cael eich talu. Felly os byddwch chi’n cael eich talu’n fisol, bydd ad-daliadau yn cael eu casglu a chyfrifo pob mis. Felly os yw’ch incwm yn amrywio pob mis, byddwch yn dal i allu talu mwy yn ôl rhai misoedd nag eraill.

Beth sy’n digwydd os byddwch yn newid swydd

Pan fyddwch chi’n newid swydd, gall eich cyflogwr blaenorol roi P45 i chi gyda ‘Y’ yn y blwch benthyciad myfyriwr. Os yw’ch incwm uwchlaw’r trothwy ad-dalu, bydd eich cyflogwr newydd yn dechrau gwneud didyniadau benthyciad myfyriwr o’ch tâl.

Os nad oes gennych P45, gallai eichcyflogwr ofyn i chi lenwi rhestr wirio cychwynnol, sy’n cynnwys bocs ticio er mwyn nodi a oes gennych fenthyciad myfyriwr. Rhaid i chi naill ai roi tic yn y bocs neu roi gwybod i’ch cyflogwr newydd fod gennych chi fenthyciad myfyriwr.

Os nad yw’ch ad-daliadau yn dechrau pan mae disgwyl iddynt, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr. Os yw’r broblem yn parhau dylech gysylltu â SLC gyda manylion eich cyflogwr newydd, megis enw a chyfeiriad, eu Cyfeirnod TWE a’ch rhif cyflogres. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar eich slip cyflog, P60 neu trwy siarad â’r adran gyflogres. Os ydych yn hunangyflogedig, bydd HMRC yn gallu rhoi gwybod i chi faint ddylech chi ad-dalu. Os ydych chi’n gweithio tu allan i’r Deyrnas Unedig am fwy na thri mis.

Beth sy’n digwydd os aiff eich cyflogwr allan o fusnes neu os nad yw’n talu eich didyniadau i HMRC

Cyn belled a bod gennych dystiolaeth y casglwyd y didyniadau, fel eich slipiau cyflog, bydd SLC yn credydu swm llawn yr ad-daliadau i’ch cyfrif.

Beth sy’n digwydd os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch yn anfon ffurflen dreth at HMRC pob blwyddyn dan y system hunanasesu (HA). Bydd faint fyddwch chi’n ad-dalu yn cael ei gymryd yn rhan o’ch bil HA ar gyfer treth. Bydd yr ad-daliad benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar eich incwm blynyddol gros dros y trothwy ar gyfer eich benthyciad.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Os ydych chi’n gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd, efallai y bydd rhaid i chi wneud rhai ad-daliadau benthyciad pan fyddwch chi’n cwblhau eich ffurflen dreth, yn ogystal â’r rhai a gesglir gan eich cyflogwr.

Gallwch hawlio credyd yn eich ffurflen dreth ar gyfer unrhyw symiau benthyciad myfyriwr mae’ch cyflogwr eisoes wedi casglu yn ystod y flwyddyn fel nad ydych yn ad-dalu gormod.

Fel TWE, bydd y system HA yn cyfrifo eich ad-daliadau benthyciad yn seiliedig ar eich incwm uwchlaw’r trothwy ar gyfer eich benthyciad. Bydd unrhyw daliad HA yn daladwy ar 31 Ionawr yn dilyn blwyddyn dreth eich asesiad. Gallwch weld gwybodaeth ar sut i lenwi eich ffurflen HA yn y canllaw a llyfrynnau a ddarperir gan HMRC. Os nad yw HMRC yn anfon ffurflen dreth atoch, fydd dim rhaid i chi wneud ad-daliadau pellach ar ben y rhai mae’ch cyflogwr eisoes yn casglu.

Os ydych chi’n talu treth yn y Deyrnas Unedig ac yn cael ffurflen dreth hunanasesiad, dylech ddefnyddio hon i ddatgan ad-daliadau benthyciad myfyriwr. Rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon yn gywir a’i dychwelyd yn brydlon. Rhaid i chi hefyd dalu eich treth ac ad-daliad benthyciad myfyriwr yn brydlon.

Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd rhaid i chi dalu llog a chosbau ariannol. Mae hyn oherwydd y bydd benthyciadau myfyrwyr yn cael eu trin yn yr un modd â threth i ddibenion y ffurflen hon.

Beth sy’n digwydd os byddwch yn teithio neu’n gweithio dramor

Os nad ydych yn talu treth yn y Deyrnas Unedig neu os ydych yn bwriadu gadael y Deyrnas Unedig am dros dri mis ar unrhyw adeg ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs (os yw hyn am gyfnod dros dro neu oherwydd y byddwch yn byw mewn gwlad arall), byddwch yn gwneud ad-daliadau i SLC yn uniongyrchol. Rhaid i chi roi gwybod i SLC cyn i chi adael y Deyrnas Unedig. Os na fyddwch, gallant osod cosbau ar eich benthyciad ac yn ôl yr angen, gofyn i chi ad-dalu swm llawn y benthyciad, a llog a chosbau, fel un cyfandaliad.

Bydd SLC yn gofyn am fanylion eich incwm ac yn cyfrifo faint ddylech ad-dalu pob mis. Byddant yn newid eich incwm i bunnoedd sterling ac yn dweud faint sydd angen i chi ei ad-dalu pob mis mewn punnoedd sterling. Byddwch yn gyfrifol am unrhyw gostau cysylltiedig â throsi’r arian a bydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd a godir gan eich banc i drosglwyddo arian i SLC.

Fel y byddech yn y DU, byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros y trothwyon ad-dalu ar gyfer benthyciadau cynllun 1 a chynllun 2 a 6% o’ch incwm dros y trothwy tuag at unrhyw Fenthyciad Ôl-raddedig. Ond oherwydd y gwahaniaethau mewn costau byw, efallai y bydd y trothwy ad-dalu mewn gwlad arall yn wahanol i drothwy’r Deyrnas Unedig.

Cyfradd ad-dalu sefydlog

Os na fyddwch yn rhoi manylion eich incwm i SLC, gellir codi swm penodedig arnoch, a allai fod yn fwy na’r swm y byddai angen i chi ad-dalu yn seiliedig ar eich incwm. Os na fyddwch yn ad-dalu’r swm yma, gallai SLC gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Pryd fydd y benthyciadau yn cael eu canslo

Gall fod yna amgylchiadau pan fydd eich benthyciad myfyrwyr yn cael ei ganslo ac na fydd rhaid i chi ei dalu yn ôl o gwbl, petaech yn marw cyn i chi ad-dalu’r benthyciad neu’n dod yn anabl ac yn anaddas i weithio’n barhaol, er enghraifft.

Gellir hefyd canslo eich benthyciad wedi cyfnod penodol o amser. Mae hyn yn dibynnu ar y rheolau ar yr adeg pan fyddwch yn cymryd benthyciad ac os ydych wedi talu’ch ad-daliadau hyd yma.

Cynllun ad-dalu 1

Os derbynioch fenthyciad cyn 1 Medi 2006, bydd balans eich benthyciad sy’n ddyledus plws unrhyw log yn cael ei ganslo pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed.

Os derbynioch y benthyciad ar neu wedi 1 Medi 2006, ond cyn 1 Medi 2012, bydd balans taladwy eich benthyciad ac unrhyw log yn cael ei ganslo 25 mlynedd wedi’r mis Ebrill pan ddaethoch yn ddyledus i ddechrau gwneud ad-daliadau.

Ym mhob achos, rhaid eich bod wedi gwneud pob ad-daliad yn seiliedig ar eich incwm hyd at y dyddiad hwnnw. Os nad, dan rai amgylchiadau, gall SLC adfer unrhyw symiau sy’n dal yn ddyledus hyd at y dyddiad hwnnw.

Cynllun ad-dalu 2

Bydd unrhyw fenthyciad plws llog sydd heb ei dalu yn ôl 30 mlynedd wedi i chi ddechrau gwneud ad-daliadau yn cael ei ganslo.

Rhaid eich bod wedi gwneud pob ad-daliad yn seiliedig ar eich incwm hyd at y dyddiad hwnnw. Os nad, mewn rhai achosion, gall SLC adfer unrhyw symiau sy’n dal yn ddyledus hyd at y dyddiad hwnnw.

Benthyciadau Ôl-raddedig

Bydd unrhyw fenthyciad plws llog sydd heb ei dalu yn ôl 30 mlynedd wedi i chi ddechrau gwneud ad-daliadau yn cael ei ganslo.

Rhaid eich bod wedi gwneud pob ad-daliad yn seiliedig ar eich incwm hyd at y dyddiad hwnnw. Os nad, mewn rhai achosion, gall SLC adfer unrhyw symiau sy’n dal yn ddyledus hyd at y dyddiad hwnnw.

Beth sy’n digwydd os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau

Dan y gyfraith, rhaid i chi ad-dalu eich benthyciad yn unol â chontract y benthyciad a rheoliadau. Os nad ydych yn gwneud ad-daliadau, bydd gan SLC yr hawl i gymryd camau cyfreithiol i adfer eich dyled. Golyga hyn y gall SLC gael gorchymyn llys i’ch gorfodi i ad-dalu’r cyfanswm plws llog a chosbau mewn un taliad.

Gellir gorfodi hyn trwy’r llysoedd fel dyled sifil p’un a ydych yn y Deyrnas Unedig neu’n byw dramor, a byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau.

Dod i ben ad-dalu eich benthyciad

Os ydych chi o fewn 4 i 23 mis i ad-dalu eich benthyciad yn llawn, gallwch newid i ad-dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydym yn argymell newid i Ddebyd Uniongyrchol fel nad ydych chi’n ad-dalu mwy nag sydd arnoch chi a bod gennych chi amser i gael ad-daliad.

Mae angen i chi roi gwybod i ni beth yw’ch manylion cyswllt cyfredol. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi ynghylch sefydlu Debyd Uniongyrchol.

Gallwch ddiweddaru’ch manylion ar-lein ar www.gov.uk/mewngofnodwch-i-reoli-balans-eich-benthyciad-myfyriwr.

Os ydych chi wedi talu gormod

Os ydych chi wedi talu gormod Byddwn yn ceisio cysylltu â chi os ydych chi wedi ad-dalu mwy nag sydd arnoch chi, felly mae’n bwysig y cedwir eich manylion cyswllt yn gyfredol.

Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol yn gywir ar eich cyfrif trwy fewngofnodi ar www.gov.uk/mewngofnodwch-i-reoli-balans-eich-benthyciad-myfyriwr.

Cynllun ad-dalu 1

Os bydd gennych chi falans credyd pan fydd eich benthyciad wedi cael ei ad-dalu yn llawn, cronnie llog ar gyfradd RPI neu 1% uwchben y Gyfradd Sylfaenol Banc, pa bynnag un sy’n is.

Bydd llog yn cronni ar RPI neu 1% uwchlaw Cyfradd Sylfaenol y Banc am uchafswm o 60 niwrnod o’r dyddiad pan fyddwn ni’n rhoi gwybod i chi am eich gordaliad. Os ydych chi’n cael ad-daliad o fewn y 60 niwrnod hwn, bydd llog y stopio cronni ar y diwrnod pan gewch ad-daliad.

Cynllun ad-dalu 2

Os bydd gennych chi falans credyd pan fydd eich benthyciad wedi cael ei ad-dalu yn llawn, cronnie llog ar gyfradd RPI.

Bydd llog yn cronni ar RPI am uchafswm o 60 niwrnod o’r dyddiad pan fyddwn ni’n rhoi gwybod i chi am eich gordaliad. Os ydych chi’n cael ad-daliad o fewn y 60 niwrnod hwn, bydd llog y stopio cronni ar y diwrnod pan gewch ad-daliad.

Benthyciad Ôl-raddedig

Os oes gennych falans credyd pan fydd eich benthyciad wedi ei ad-dalu’n llawn, bydd SLC yn ysgrifennu atoch i’ch cynghori y bydd llog yn cronni am 60 niwrnod arall ar RPI plws hyd at 3%. Wedi i’r 60 niwrnod basio, ni fydd llog pellach yn cael ei ychwanegu i’r balans credyd ar eich cyfrif.

Cael ad-daliad

Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi ac nad ydych chi wedi hawlio hyn, efallai y byddwn yn ceisio ad-dalu eich cyfrif banc yn uniongyrchol.

7 Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon

Cwynion

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r lefel gwasanaeth a dderbynioch, dylech gysylltu ag SLC i gofrestru cwyn. Gallwch wneud hyn drwy:

ffonio: 0300 100 0601

e-bostio: customer_complaints@slc.co.uk

ysgrifennu at:

Uned Cysylltiadau Cwsmeriaid
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

Os ydych chi wedi defnyddio’r weithdrefn hon ac yn dal yn anfodlon, gallwch gael adolygu eich cwyn gan Aseswr Annibynnol.

Apeliadau

Os ydych chi’n credu bod penderfyniad a wnaethom parthed eich cais am gyllid yn anghywir, mae gennych chi hawl i apêl. Mae apêl yn gais ffurfiol i Gyllid Myfyrwyr Cymru yn gofyn i ni adolygu ein penderfyniad ar eich hawl i gyllid i fyfyrwyr.

Os ydych chi eisiau apelio yn erbyn ein gwrthodiad i ddyfarnu cyllid i fyfyrwyr i chi neu os ydych yn anghytuno gyda sut ydyn ni wedi cyfrifo eich cyllid, gallwch apelio trwy:

lawrlwytho templed apêl o www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk ac anfon y ffurflen wedi ei llenwi atom trwy e-bost neu’r post yn defnyddio’r cyfeiriadau canlynol

e-bostio: formal_appeals@slc.co.uk

ysgrifennu at:

Apeliadau Ffurfiol Cyllid Myfyrwyr Cymru
Blwch Post 220
Cyffordd Llandudno
LL30 9GE

Os ydych chi wedi defnyddio’r weithdrefn hon ac yn dal yn anfodlon, gallwch gael adolygu eich apêl gan Aseswr Annibynnol.

8 Cysylltiadau defnyddiol

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am ad-dalu, ewch i www.gov.uk/repaying-your-student-loan neu ffoniwch 0300 100 0370 rhwng 8am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Os ydych yn byw yng Nghymru

Gallwch fynd i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu ffonio’r ganolfan gyswllt ddwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru am wybodaeth gyffredinol ar fenthyciadau myfyrwyr. Ffoniwch 0300 200 4050 rhwng 8am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Os ydych yn byw dramor

Dylech ffonio Gwasanaethau Cyllid i Fyfyrwyr ar +44 141 243 3570.

Gallwch hefyd ysgrifennu atynt yn:

Student Finance Services
Blwch Post 89
Darlington
County Durham
United Kingdom
DL1 9AZ

Cyllid a Thollau EM

Unwaith y byddwch wedi dechrau ad-dalu eich benthyciad, os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut y cesglir ein had-daliadau trwy’r syst em dreth, dylech siarad naill ai â’ch cyflogwr neu gysylltu â HMRC ar y rhifau a restrir ar www.hmrc.gov.uk/local