Cyhoeddwyd: 09 Medi 2022

Sgamiau gwe-rwydo: Sut y gallwch eu hosgoi


Sgamiau gwe-rwydo: Sut y gallwch eu hosgoi

Rydym wedi cael adroddiadau bod negeseuon gwe-rwydo’n cael eu hanfon drwy negeseuon testun. Felly, rydym am sicrhau eich bod yn gwybod sut mae eu hadnabod a sut mae adrodd amdanynt. Cofiwch na fyddwn byth yn gofyn i chi anfon eich manylion banc atom drwy ebost neu neges destun.

Sut mae adnabod sgam

‘Gwe-rwydo’ yw unrhyw weithgarwch y bwriedir iddo eich twyllo i rannu eich manylion personol megis enwau defnyddiwr a chyfrineiriau – caiff hynny ei wneud drwy neges ebost neu neges destun fel rheol. Yna, gall troseddwyr ddefnyddio’r manylion hynny i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein, dwyn gwybodaeth a mynd â’ch arian efallai.

Gall sgamiau gwe-rwydo ddigwydd unrhyw bryd, a gall myfyrwyr gael eu targedu o gwmpas eu dyddiadau talu ar ddechrau’r tymor. Dyma ambell air o gyngor gennym i’ch helpu i’w hadnabod:

  1. Yn aml, caiff negeseuon ebost gwe-rwydo eu hanfon at lawer o bobl ar yr un pryd ac mae’n annhebygol y byddant yn cynnwys eich enw cyntaf a’ch cyfenw. Fel rheol, byddant yn dechrau ag ‘Annwyl Fyfyriwr’.
  2. Gwiriwch ansawdd y cyfathrebu – mae camsillafu, atalnodi gwael a gramadeg gwael yn arwyddion cyffredin bod negeseuon ebost neu negeseuon testun yn rhai ffug.
  3. Bydd y twyllwyr yn ceisio creu ymdeimlad o frys fel ffordd o roi pwysau arnoch i roi eich manylion personol. Er enghraifft, byddant yn dweud pethau fel ‘bydd eich cyfrif yn cael ei gau os na fyddwch yn ymateb cyn pen 24 awr’.

Sut mae osgoi’r sgamiau hyn

Rydym wedi crynhoi ambell air o gyngor i’ch helpu i aros yn ddiogel:

  • Byddwch yn effro i unrhyw negeseuon ebost, galwadau ffôn neu negeseuon SMS sy’n amheus yn eich barn chi, yn enwedig o gwmpas yr adeg pan fyddwch yn disgwyl taliad
  • Ni ddylech roi negeseuon ar-lein sy’n rhoi gwybod i bobl y byddwch yn cael eich taliad cyllid myfyrwyr yn fuan, oherwydd gallai hynny eich gwneud yn darged i dwyllwyr
  • Sicrhewch bob amser eich bod yn defnyddio gwefan ddiogel pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth sensitif ar-lein, a pheidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol ar dudalennau ar gyfryngau cymdeithasol
  • Osgowch fewngofnodi i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr ar rwydweithiau neu gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Os byddwch yn cael galwad ffôn sy’n amheus yn eich barn chi, peidiwch â theimlo dan bwysau i roi’r manylion y gofynnir amdanynt. Ffoniwch ni ar rif yr ydych yn gwybod ei fod yn ddilys o’n tudalen ar gyfer Cysylltu.

Os byddwch yn cael neges ebost am gyllid myfyrwyr a’ch bod yn credu ei bod yn sgam, dylech ei hanfon atom ni: phishing@slc.co.uk. Bydd hynny’n ein galluogi i gau’r wefan ac atal myfyrwyr rhag cael eu twyllo.

Os byddwch yn cael galwad ffôn yr ydych yn credu ei bod yn rhan o sgam llais-rwydo, dylech anfon neges ebost atom: furtherinfo@slc.co.uk. Bydd hynny’n ein helpu i warchod eich cyfrif a chadw eich manylion personol yn ddiogel.

Pwy yw’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr?

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn goruchwylio cyllid myfyrwyr ar ran y llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig ar draws y DU. Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yw rhiant-sefydliad Cyllid Myfyrwyr Cymru, Cyllid Myfyrwyr Lloegr a Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon.

 

Newyddion cysylltiedig