Cyhoeddwyd: 03 Ebrill 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2023

Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anhawster dysgu, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd?


Gwybodaeth am Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)

Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd 2023/24 yr hydref hwn, yn ddiweddar lansiwyd y gwasanaeth ceisiadau cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru. Gall myfyrwyr wneud cais am gymorth gyda chostau eu cwrs trwy Fenthyciad Cynhaliaeth a grant ac i dalu eu ffioedd gyda Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Fodd bynnag, yn dibynnu ar amgylchiadau myfyriwr, mae mathau eraill o gymorth ar gael hefyd. Mae hyn yn cynnwys y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), sydd ar gael i fyfyrwyr ariannu cymorth ychwanegol y gall fod ei angen arnynt os ydynt yn byw ag anabledd, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd meddwl, gan gynnwys:

  • anhawster dysgu penodol
  • cyflwr iechyd meddwl
  • anabledd corfforol
  • anabledd synhwyraidd
  • cyflwr iechyd hirdymor

Rydym yn deall bod amgylchiadau personol a’r cymorth sydd ei angen yn unigol iawn i’r myfyriwr hwnnw ac y bydd yn amrywio o berson i berson. Fodd bynnag, yn y termau ehangaf, mae cymorth LMA yn cynnwys:

  • Offer arbenigol – er enghraifft os oes angen cyfrifiadur ar fyfyriwr i redeg meddalwedd arbenigol neu ddangosydd braille.
  • Helpwyr anfeddygol – er enghraifft, os oes angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain i fynychu darlithoedd.
  • Teithio – er enghraifft, os oes angen tacsi i fynychu’r brifysgol, yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gellir hefyd ystyried ystod o gostau cyffredinol, yn ymwneud ag anabledd myfyriwr.

Nid yw LMA yn dibynnu ar incwm y cartref ac nid oes angen ei ad-dalu.

Y broses ymgeisio:

Gall myfyrwyr wneud cais am LMA ar-lein os ydynt yn fyfyriwr amser llawn yng Nghymru ac yn gwneud cais am gymorth arall gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Lle nad yw myfyriwr yn gwneud cais am unrhyw gyllid arall gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, gall lawrlwytho ffurflen gais o www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl/

Mae gwybodaeth am y LMA ar gyfer cyrsiau rhan-amser ar gael yma:
www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-rhan-amser/myfyriwr-cymreig/ ac ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/

Fel rhan o'r broses ymgeisio bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o'u hanabledd. I gael cyngor ar yr hyn y gall fod ei angen www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl/#anchor-4

Cyflwr Prawf

Anableddau neu gyflwr iechyd hirdymor

Copi o adroddiad neu lythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd - gallwch hefyd lenwi'r ffurflen tystiolaeth anabledd

Cyflwr iechyd meddwl

Copi o adroddiad neu lythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd - gallwch hefyd lenwi'r ffurflen tystiolaeth anabledd

Anhawster dysgu penodol fel dyslecsia

Copi o ‘asesiad diagnostig’ gan seicolegydd sy’n ymarfer neu athro arbenigol â chymwysterau addas

Ymgeisiwch nawr

Hyd yn oed os nad yw myfyriwr yn sicr pa gwrs neu sefydliad y gall ei fynychu yn yr hydref, rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw fyfyriwr ddechrau’r broses ymgeisio am LMA cyn gynted â phosibl, i wneud yn siŵr y bydd cymorth ar gael ar ddechrau’r tymor.

Newidiadau i'r LMA

Mae SLC ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect diwygio a fydd yn gwneud gwelliannau sylweddol i'r gwasanaeth LMA. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw newidiadau i'r ffordd y mae myfyrwyr yn gwneud cais am LMA a dylai myfyrwyr wneud cais fel arfer ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24. Bydd unrhyw bontio i fodel newydd yn cael ei gyfathrebu'n llawn o flaen amser i fyfyrwyr newydd a phresennol.

 

Newyddion cysylltiedig