Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026!
Faint allwch chi ei gael
Ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £19,255 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.
Ar gyfer cwrs Doethurol ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £29,130 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw.
Sut mae’n cael ei dalu
Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.
Sut allwch chi ymgeisio
Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd!
Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.
Newyddion cysylltiedig
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid addysg bellach!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2025 i 2026 wedi agor erbyn hyn.
Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!
Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2025 i 2026 ar agor yn awr.
2025 i 2026: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!
Mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026 nawr ar agor!