Cyhoeddwyd: 11 Ebrill 2025 · Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ebrill 2025

Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser ar gyfer 2025 i 2026


Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser ar gyfer 2025 i 2026 agor erbyn ganol mis Mai.

Faint allwch chi ei gael

Gallech gael cymysgedd o fenthyciad a grant o hyd at £6,829 y flwyddyn i helpu tuag at eich costau byw, a Benthyciad Ffioedd Dysgu hyd at £7,145 i dalu ffioedd eich cwrs.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ychwanegol os oes gennych ddibynyddion, neu anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.

Sut ydych chi'n cael eich talu?

Rydym yn talu eich benthyciad/grant ar gyfer costau byw 3 gwaith y flwyddyn, fel arfer ar ddechrau pob tymor.

Rydym yn talu ffioedd y cwrs yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.

Sut allwch chi ymgeisio

Pan fydd ceisiadau'n agor, mae'n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae'n ei gymryd!

Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.

Newyddion cysylltiedig