Cyhoeddwyd: 23 Ebrill 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2023  · Tagiwyd yn:  2023 i 2024  a  Cyllid myfyrwyr ôl-raddedig

Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif (yn agor mewn tab newydd) yn awr.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd, felly peidiwch â gwastraffu amser! Gwnewch gais yn awr (yn agor mewn tab newydd) neu mae’n bosibl na chewch eich talu mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod sut mae gwneud cais, faint o arian y gallwch ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig (yn agor mewn tab newydd) a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig (yn agor mewn tab newydd).

 

Newyddion cysylltiedig

2025 i 2026: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

Mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026 nawr ar agor!

Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026!

Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr ôl-raddedig a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026 agor erbyn diwedd mis Ebrill.

2024 i 2025: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

2024 i 2025: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!