Gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr ar sail incwm y cartref

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am fenthyciadau nad ydynt yn seiliedig ar incwm y cartref ac yn awr eisiau gwneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth, Grant Cynhaliaeth neu Grant Cymorth Arbennig, bydd angen i ni asesu incwm eich cartref.

Incwm eich cartref yw incwm eich rhieni neu'ch partner, yn ogystal â'ch incwm chi.

Newidiwch eich cais gan ddefnyddio ffurflen bapur

Rhaid i bob myfyriwr lenwi rhannau 1, 2 a 4.

Llenwch ddim ond rhan 3 os hoffech wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol ac/neu Grant Gofal Plant.

Cynnwys incwm eich rhieni neu bartner

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Bydd angen i’ch rhieni neu bartner anfon manylion eu hincwm ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 atom.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Bydd angen i’ch rhieni neu bartner anfon manylion eu hincwm ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 atom.

Os yr ydym wedi gofyn i chi i ddarparu gwybodaeth ariannol er mwyn cefnogi cais ac rydych wedi cwblhau dychweliad treth papur ar gyfer 2020 i 2021, efallai y byddwch yn darganfod y canllaw canlynol yn ddefnyddiol.

Ble i anfon eich ffurflenni

Llofnodwch a dyddiwch eich ffurflenni a’u hanfon atom; cofiwch gynnwys y tâl post cywir:

Rhagor o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr ar sail incwm y cartref