Ffurflen gais ar gyfer grantiau dibynyddion

Dylech ond lenwi’r ffurflen hon os ydych chi’n fyfyriwr amser llawn sydd eisoes wedi cwblhau’ch cais cyllid i fyfyrwyr 2023 i 2024 neu 2022 i 2023 ac sydd nawr eisiau newid y cais hwnnw i gynnwys Grant Oedolion Dibynnol, Lwfans Dysgu i Rieni ac/neu Grant Gofal Plant.

 

Newidiwch eich cais gan ddefnyddio ffurflen bapur

Atebwch bob cwestiwn yn rhannau 1 a 2, wedyn llofnodwch a dyddiwch y datganiad. Os nad oes unrhyw gwestiynau’n berthnasol i chi, ysgrifennwch ‘ddim yn berthnasol’ neu ‘Ddim’ fel eich ateb. Os gadewir unrhyw gwestiynau’n wag, ni fyddwn yn gallu prosesu’r cais hwn.

Ble i anfon y ffurflen hon

Llofnodwch a dyddiwch eich ffurflenni, wedyn anfonwch nhw atom ni; cofiwch gynnwys y tâl post cywir.

Cyfeiriadau postio ar gyfer Cyllid Myfyrwyr Cymru