Gwybodaeth cyllid myfyrwyr i fyfyrwyr aeddfed


Gallwch wneud cais am gyllid i fyfyrwyr fel myfyriwr aeddfed. Darganfyddwch pa gyllid sydd ar gael a sut i wneud cais.

Beth sydd ar gael?

Gallwch wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu a Benthyciadau Cynhaliaeth ar gyfer costau byw. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol os oes gennych blant neu oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, neu os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl, neu anhawster dysgu penodol.

Beth fydd yn digwydd os gwnewch gais yn agos at ddechrau eich cwrs?

Gwnewch gais am gyllid myfyrwyr cyn gynted ag y gallwch

Mae’n bwysig gwneud cais am gyllid myfyrwyr cyn gynted â phosibl. Po gyflymaf y gwnewch gais, y cynharaf y gallwn asesu eich cais a thalu i chi.

I wneud yn siŵr bod gennych gyllid yn agos at ddechrau eich cwrs byddwn yn dyfarnu eich swm llawn o Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth. Bydd swm y cyllid a ddyrannir i Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth yn debygol o newid unwaith y byddwn yn asesu manylion incwm eich cartref yn llawn. Nid oes angen i chi ein ffonio, mae hyn yn arferol.

Gwneud cais am gyllid yn seiliedig ar incwm y cartref

Os ydych chi dros 25, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol.

Gallwch hefyd gael eich ystyried yn annibynnol os ydych o dan 25 oed ac:

  • yn gofalu am blentyn
  • wedi cynnal eich hun yn ariannol am dair blynedd cyn i'ch cwrs ddechrau
  • os ydych yn gadael gofal neu wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni
  • rydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar unrhyw adeg cyn dechrau eich cwrs

Mae faint o gyllid a gewch fel myfyriwr annibynnol yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac incwm eich cartref.

Os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n byw gyda phartner, byddwn yn gofyn am fanylion incwm eich partner fel rhan o’r broses ymgeisio.

Mae'r rheolau'n wahanol os ydych o dan 25 oed. Dysgwch fwy am sut mae incwm y cartref yn effeithio ar eich cyllid.

Gwneud cais am gymorth ychwanegol

Mae help ychwanegol ar gael os ydych yn fyfyriwr gyda phlant neu oedolion dibynnol, neu os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu.

Gall myfyrwyr sydd â phlant neu oedolion dibynnol wneud cais am:

Os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol, bydd hwn yn cael ei ddyfarnu unwaith y byddwn wedi asesu rhan incwm y cartref o’ch cais. Felly, efallai na fydd yn ei le tan ar ôl i'ch cwrs ddechrau.

Gall y ceisiadau hyn gymryd ychydig mwy o amser i'w prosesu, sy'n golygu trwy wneud cais hwyr efallai y bydd angen i chi hunan-ariannu pethau fel gofal plant ar ddechrau'ch cwrs. Unwaith y bydd eich cais wedi'i gymeradwyo, bydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ôl-ddyddio.