Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023  a  Cyllid myfyrwyr israddedig: Amser-llawn

Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi pasio


Mae’r dyddiad cau i fyfyrwyr israddedig llawn-amser newydd a myfyrwyr israddedig llawn-amser sy’n parhau wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 wedi pasio erbyn hyn – ond mae’n bwysig atgoffa myfyrwyr nad yw’n rhy hwyr iddynt wneud cais a chael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.

Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn gwneud cais cyn gynted ag y gallant

Dylai myfyrwyr israddedig llawn-amser barhau i wneud cais yn awr (yn agor mewn tab newydd), hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallant newid cais yn gyflym ac yn hawdd ar-lein yn nes ymlaen os bydd angen.

Os byddant yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr sy’n seiliedig ar incwm eu cartref, bydd arnom angen manylion am incwm eu rhieni neu’u partner. Bydd yn cymryd mwy o amser i ni brosesu manylion am incwm cartref, felly mae’n debyg mai dim ond rhywfaint o’u Benthyciad Cynhaliaeth y bydd myfyrwyr sy’n gwneud cais ar ôl y dyddiad cau’n ei gael ar ddechrau’r tymor – byddwn yn talu’r gweddill cyn gynted ag y gallwn.

Newyddion cysylltiedig

Mae’n bryd i fyfyrwyr llawn amser wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor!

Pecyn Perfformiad y DSA

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) gyda'n Pecyn Perfformiad DSA.

2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!