Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2025  · Tagiwyd yn:  2025 i 2026  a  Cyllid myfyrwyr israddedig: Amser-llawn

Mae’n bryd i fyfyrwyr llawn amser wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau y bydd angen iddynt ailymgeisio am gyllid myfyrwyr, hefyd trwy eu cyfrif ar-lein.

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar gwrs eto. Dylent roi manylion eu cwrs dewisol i ni a'i newid yn ddiweddarach os bydd angen.

Myfyrwyr sy'n gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r Ffurflen gais Myfyriwr sy’n ariannu ffioedd dysgu yn unig.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o ddiwedd mis Ebrill 2025.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o ganol mis Mai 2025.

 

Pa gyllid sydd ar gael yn 2025 i 2026?

Rhannwch ein tudalen ymgyrch 2025 i 2026 a ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ (yn agor mewn tab newydd) i roi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a X yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales (yn agor mewn tab newydd)
X - @SF_Wales (yn agor mewn tab newydd)
YouTube /SFWFilm (yn agor mewn tab newydd)

Newyddion cysylltiedig

2025 i 2026: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2025 i 2026 ar agor yn awr.

2025 i 2026: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

2025 i 2026: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

Ceisiadau ôl-raddedig 2025 i 2026 yn agor yn fuan!

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o ddiwedd mis Ebrill 2025.