Deunyddiau Ategol Cyllid Myfyrwyr Cymru


Mae'r Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Ariannu wedi creu cyfres o adnoddau pwrpasol ar gyfer Ymarferwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae'r adnoddau hyn yn ymdrin â llu o bynciau cyllid myfyrwyr a'u bwriad yw eich cefnogi i gyflwyno IAG cywir i'ch myfyrwyr.

Gallwch gael mynediad at adnoddau CMC isod:

Nod y daflen ffeithiau hon yw darparu gwybodaeth i rieni y mae eu plant yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, sut mae ad-daliadau’n gweithio a sut y gall rhieni gefnogi cais eu plentyn.

Nod y daflen ffeithiau hon yw rhoi trosolwg o’r broses Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Mae'n cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, trosolwg o'r broses o'r dechrau i'r diwedd, asesiadau anghenion, sut i wneud cais ac amserlenni.

Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth i Ymarferwyr ar y broses ar gyfer: tynnu'n ôl, ataliadau ac ailddechrau astudiaethau. Mae'n ymdrin â'r gwahanol fathau o dynnu'n ôl, senarios amrywiol o fyfyrwyr yn ailafael yn eu hastudiaethau yn dilyn ataliad, yn ogystal â gordaliadau a'r effaith bosibl ar fyfyrwyr.

Mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr CMC sy’n gadael gofal, gan gynnwys: pwy sy’n gymwys, sut i wneud cais a gwybodaeth ddefnyddiol a chyfeirio.

Dalen ffeithiau i fyfyrwyr amgylchedd diogel, yn darparu gwybodaeth am gymhwysedd, hawl, ad-daliad a chyllid myfyrwyr ar ôl eu rhyddhau.

Dalen ffeithiau i fyfyrwyr amgylchedd diogel, yn darparu gwybodaeth am gymhwysedd, hawl, ad-daliad a chyllid myfyrwyr ar ôl eu rhyddhau.

Adnodd poster, yn rhoi trosolwg o daith myfyriwr CMC, o ymchwil hyd at ad-dalu.