Wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin? Gwiriwch i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr!


Ydych chi wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin? Gallech fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr yn awr.

Myfyrwyr Addysg Bellach

Heb wneud cais eto

Os cawsoch becyn gwneud cais gan eich ysgol neu’ch coleg cyn 24 Gorffennaf 2022 – darllenwch y diweddariad diweddaraf sy’n cynnwys gwybodaeth am gymhwysedd i’r sawl sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin.

Os na chawsoch becyn gwneud cais ac os nad ydych wedi gwneud cais eto am Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), dylech lawrlwytho’r ffurflen gais a’r nodiadau a ddiweddarwyd er mwyn gwneud hynny:

Eisoes wedi gwneud cais

Os ydych wedi gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) cyn 24 Gorffennaf 2022 ac os ydych wedi cael eich gwneud yn anghymwys oherwydd eich statws preswylio, dylech lawrlwytho’r canllaw ‘Tystiolaeth o Genedligrwydd a Manylion Preswylio’ a ddiweddarwyd er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch pa dystiolaeth y dylech ei hanfon:

Cafodd y canllaw ‘Tystiolaeth o Genedligrwydd a Manylion Preswylio’ ei ddiweddaru ar 24 Gorffennaf 2022 er mwyn cynnwys gwybodaeth i’r sawl sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin.

Myfyrwyr Addysg Uwch

Heb wneud cais eto

Mae’n bwysig eich bod yn creu cyfrif neu’n mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein ac yn gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod peth cyllid ar gael i chi ar ddechrau eich cwrs. Mae’n gallu cymryd 6 i 8 wythnos i ni brosesu cais, felly nid oes angen i chi ein ffonio i gael diweddariad tra byddwn yn gwneud hynny.

Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd!

Cael gwybod mwy am wneud cais yn hwyr.

Eisoes wedi gwneud cais

A ydych wedi gwneud cais am eich cyllid myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser cyn 24 Gorffennaf 2022 ac wedi cael eich gwneud yn anghymwys oherwydd eich statws preswylio? Os ydych wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin, gallech fod yn gymwys i gael cymorth yn awr. Ewch i’n tudalennau ‘Pwy sy’n gymwys’ i gael gwybod mwy: