Darganfod cyllid myfyrwyr


Mae’n amser ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr!

Mae'r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 bellach ar agor i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau.

Ymgeisiwch nawr! (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Gallwch wneud cais a rheoli eich cyfrif cyllid myfyrwyr yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.

Myfyrwyr israddedig amser llawn newydd

Efallai bod y dyddiad cau o 31 Mai 2024 wedi pasio, ond rydych yn dal i allu ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr.

Ymgeisiwch nawr i gael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’ch cwrs.

Mae’n gyflym ac yn hawdd gwneud cais ar-lein – dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais gyda’ch:

  • Manylion pasbort
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion banc

Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol, gallwch ei weld yn yr ap CThEF (yn agor mewn tab newydd).

Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg i wneud cais – gwnewch gais nawr gyda’ch dewis a diweddarwch eich manylion yn ddiweddarach os oes angen.

Os penderfynwch beidio â mynd i’r brifysgol neu’r coleg eleni, gallwch ganslo’ch cais ar-lein, felly peidiwch ag aros i wneud cais!

Pwy all gael cyllid myfyrwyr

Dylech fod yn gymwys i gael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru os:

  • ydych yn ddinesydd y DU neu os oes gennych statws preswylydd neu gyn-sefydlog yn y DU o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • ydych fel arfer yn byw yng Nghymru
  • ydych wedi byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs
  • byddwch yn astudio cwrs addysg uwch cymwys mewn coleg neu brifysgol yn y DU
  • nad oes gennych gymhwyster addysg uwch yn barod

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau ynghylch a oes cyllid ar gael i chi a'r cwrs yr ydych yn bwriadu ei astudio, ewch i'n tudalen pwy sy'n gymwys.

Beth sydd ar gael

Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gan y mwyafrif o fyfyrwyr ddau brif gost i’w dalu: ffioedd dysgu a chostau byw. Rydyn ni yma i helpu gyda'r ddau!

  • Benthyciad Ffioedd Dysgu – hyd at £9,250 (ar gyfer myfyrwyr israddedig)

Gallech gael help gyda chostau byw sy’n cynnwys cymysgedd o:

  • Benthyciad Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr israddedig)
  • Grant Cynhaliaeth – nid oes angen i chi ad-dalu hwn (ar gyfer myfyrwyr israddedig)

I gael gwybod pa gyllid y mae gennych hawl iddo ar sail incwm eich cartref, ewch i’n tudalen ynghylch beth sydd ar gael.

Os ydych yn fyfyriwr annibynnol neu wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.

Gallwch gael cymorth ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru os oes gennych blant neu oedolyn sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd i fyfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.

Myfyrwyr israddedig amser llawn sy’n parhau

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n parhau, mae'r broses ymgeisio hyd yn oed yn haws. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif.
  2. Dewiswch ‘ceisiadau cyllid myfyrwyr israddedig’.
  3. Cliciwch ar ‘ailymgeisio nawr’.
  4. Cliciwch ‘Ailymgeisio neu gychwyn cais arall’.
  5. Cwblhewch eich cais a gwasgwch Cyflwyno!

Efallai bod y dyddiad cau o 28 Mehefin 2024 wedi pasio, ond rydych yn dal i allu ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr.

Ymgeisiwch nawr i gael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’ch cwrs.

Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr

Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr tan y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs a’ch bod yn ennill dros y trothwy ad-dalu, sef £524 yr wythnos ar hyn o bryd, £2,274 y mis neu £27,295 y flwyddyn.

Mae faint rydych chi’n ei ad-dalu yn seiliedig ar faint rydych chi’n ei ennill, nid faint rydych chi wedi’i fenthyca.

Ewch i'n tudalen ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Ydych chi'n rhiant neu'n bartner?

Unwaith y bydd eich plentyn neu bartner wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr, byddwn yn anfon e-bost atoch i gefnogi eu cais.

Gallwch ddewis cefnogi cais y myfyriwr â manylion am incwm eich cartref, er mwyn iddo/iddi gael cymaint o grant ag sy’n bosibl yn hytrach na benthyciad. Ewch i’n tudalen Gwybodaeth i rieni a phartneriaid i gael rhagor o wybodaeth.

Mae angen i chi ddarparu manylion incwm eich cartref bob blwyddyn o gwrs y myfyriwr.

Cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Gall myfyrwyr ôl-raddedig ddarganfod beth sydd ar gael a chael llawer o wybodaeth bwysig ar ein tudalennau pwrpasol:

Cadwch lygad ar ein Facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd) am ddiweddariadau.