Newidiadau i’ch gwybodaeth neu’ch amgylchiadau
Newidiadau y mae’n rhaid i chi sôn wrthym amdanynt
Mae angen i chi roi gwybod i ni:
- os bydd cyfeiriad eich cartref yn newid
- os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid
- os byddwch yn gadael eich cwrs
- os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid
Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i newid eich manylion personol, er enghraifft eich manylion banc neu’ch manylion cyswllt.
Bydd angen i chi anfon ffurflen atom i newid unrhyw fanylion eraill, er enghraifft manylion eich prifysgol neu’ch cwrs:
Os byddwch yn gadael eich cwrs neu’n rhoi’r gorau iddo dros dro
Bydd angen i chi gysylltu â ni a gofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym hefyd.
Byddwn yn stopio unrhyw daliadau sydd i ddod ac yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y mae gennych hawl iddo. Mae hynny’n golygu y gallai gormod o gyllid myfyrwyr fod wedi’i dalu i chi ac y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint ohono cyn i chi ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.
Os byddwch yn gohirio eich cwrs oherwydd salwch, efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus am 60 diwrnod ychwanegol. Bydd angen i'ch prifysgol ein hysbysu bod eich ataliad yn gysylltiedig â salwch. Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth o hyn.
Gallwch hawlio am gymorth Caledi Ariannol os ydych wedi cael ailasesiad o’ch hawl a bydd y newid yn eich rhoi dan anfantais ariannol. Efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus yn ystod eich cyfnod o ataliad.
Os ydych am newid swm y benthyciad y gwnaethoch ofyn amdano
Bydd angen i chi anfon ffurflen atom:
Newidiadau y mae’n rhaid i’ch rhieni neu’ch partner sôn wrthym amdanynt
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar neu cyn 31 Gorffennaf 2024 yn unig.
Os bydd eu hincwm yn newid
Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner:
- gywiro unrhyw gamgymeriadau am incwm eu cartref drwy anfon ffurflen PGPFF newydd atom
- sôn wrthym os ydynt yn disgwyl i incwm eu cartref fod 15% neu fwy yn is nag yr oedd yn ystod y flwyddyn dreth y cawsom fanylion ganddynt ar ei chyfer.
Os byddant yn cael plentyn arall
Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner ddweud wrthym os byddant yn cael rhagor o blant, drwy anfon ffurflen PGPFF newydd atom.