Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mae eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr yn dechrau yma

Myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ac addysg bellach, mewngofnodwch i reoli eich cyfrif cyllid myfyrwyr neu i ddechrau cais.

Beth sy’n digwydd yn awr

Y prif ddiweddariadau ar gyfer pob un o’n gwasanaethau

Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn.

Canllaw ‘Sut i’

Dewch o hyd i’r atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr israddedig yn eu gofyn i ni ar hyn o bryd.

Pryd a sut mae cyflwyno tystiolaeth

Cael gwybod pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei lanlwytho i gefnogi eich cais

Y newyddion diweddaraf

Y newyddion diweddaraf gan Cyllid Myfyrwyr Cymru

13 Mawrth 2024

2024 i 2025: Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!

15 Mai 2023

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais ar gyfer 2023 i 2024 ar agor yn awr!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

03 Mai 2023

Mae taliadau LCA yn cynyddu!

O 17 Ebrill 2023, bydd swm taliad myfyrwyr sydd â hawl i LCA yn cynyddu o £30 yr wythnos, i £40 yr wythnos!

Y diweddaraf ar YouTube

Darganfod cyllid myfyrwyr

Yn mynd i brifysgol neu goleg yn 2024 i 2025? Gwyliwch ein ffilm i gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae help ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anabledd

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall, a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau’n ymwneud ag astudio, er enghraifft cost offer, cost help nad yw’n help meddygol, costau teithio a chostau llungopïo ac argraffu.

Oes arnoch angen siarad â rhywun?

Cysylltu â ni