Cyhoeddwyd: 13 Mawrth 2024 · Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mawrth 2024  · Tagiwyd yn:  2024 i 2025

Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!

Ymgeisiwch nawr!

Os ydych yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor erbyn diwedd mis Mai 2024.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor erbyn diwedd mis Mehefin 2024.

Myfyrwyr newydd

Os ydych yn fyfyriwr newydd, dylech wneud cais erbyn Dydd Gwener, 31 Mai 2024. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i gwblhau eich cais! Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg – gallwch ymgeisio nawr a diweddaru eich manylion yn ddiweddarach os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os gwnewch gais hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd!

Ewch i'n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i ddarganfod pa gyllid sydd ar gael i chi yn y flwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Myfyrwyr sy’n parhau

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n parhau, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein i wirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir. Dylech ailymgeisio cyn 28 Mehefin 2024 i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn nesaf eich cwrs.

 

Newyddion cysylltiedig

2024 i 2025: Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!