Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio!


Fyddwch chi’n dechrau cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs Gradd Meistr neu Ddoethuriaeth ôl-raddedig eleni? Rydym wedi’i gwneud yn haws i chi gael gwybod pryd y bydd y cyfnod yn agor i chi wneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023!

Drwy ymuno â’n rhestrau postio, byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y gallwch wneud cais. Mae disgwyl y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser a chyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn agor ganol mis Mai.

Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud ceisiadau.

Ceisiadau gan fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig wneud ceisiadau.

Rhowch wybod i’ch ffrindiau am ein rhestrau postio er mwyn iddyn nhw allu gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl hefyd!