Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2024 i 2025!


Faint allwch chi ei gael

Ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £18,950 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau Meistr.

Ar gyfer cwrs Doethurol ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £28,655 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau Doethurol.

Sut mae’n cael ei dalu

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.

Pryd fydd ceisiadau yn agor?

Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr ôl-raddedig a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2024 i 2025 agor erbyn diwedd mis Mehefin.

Sut allwch chi ymgeisio

Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd!

Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.