Newidiadau i’ch gwybodaeth neu’ch amgylchiadau


Newidiadau y mae’n rhaid i chi sôn wrthym amdanynt

Mae angen i chi roi gwybod i ni:

  • os bydd cyfeiriad eich cartref yn newid
  • os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid
  • os byddwch yn gadael eich cwrs
  • os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid

Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i newid eich manylion personol, er enghraifft eich manylion banc neu’ch manylion cyswllt.

Bydd angen i chi anfon ffurflen atom i newid unrhyw fanylion eraill, er enghraifft manylion eich prifysgol neu’ch cwrs:

Os byddwch yn gadael eich cwrs neu’n rhoi’r gorau iddo dros dro

Bydd angen i chi gysylltu â ni a gofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym hefyd.

Byddwn yn stopio unrhyw daliadau sydd i ddod ac yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y mae gennych hawl iddo. Mae hynny’n golygu y gallai gormod o gyllid myfyrwyr fod wedi’i dalu i chi ac y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint ohono cyn i chi ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Os byddwch yn gohirio eich cwrs oherwydd salwch, efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus am 60 diwrnod ychwanegol. Bydd angen i'ch prifysgol ein hysbysu bod eich ataliad yn gysylltiedig â salwch. Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth o hyn.

Gallwch hawlio am gymorth Caledi Ariannol os ydych wedi cael ailasesiad o’ch hawl a bydd y newid yn eich rhoi dan anfantais ariannol. Efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus yn ystod eich cyfnod o ataliad.

Os ydych am newid swm y benthyciad y gwnaethoch ofyn amdano