Gweld beth y mae angen i chi ei wybod am ddarparu tystiolaeth
Wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig, mae’n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr, rhiant/rhieni neu bartneriaid ddarparu tystiolaeth.
Ni ddylech roi tystiolaeth i ni oni bai ein bod wedi gofyn i chi wneud hynny. Bydd darparu tystiolaeth nad oes arnom ei hangen yn arafu’r cais.
Sut mae darparu tystiolaeth
Y ffordd hawsaf a chyflymaf o ddarparu tystiolaeth yw drwy lanlwytho copi digidol ohoni i gyfrif ar-lein.
Dylech sicrhau hefyd eich bod yn edrych ar eich rhestr o bethau i’w gwneud, sydd yn eich cyfrif ar-lein, er mwyn cael gwybod beth yn union y mae arnom ei angen gennych chi. Os nad ydych yn gallu gweld eich rhestr o bethau i’w gwneud, nid oes gennych gamau gweithredu i’w cymryd.
Os oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi
Pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddarparu manylion neu dystiolaeth i gadarnhau pwy ydych chi. Gallwch wneud hynny drwy gofnodi manylion eich pasport dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasport gwreiddiol atom na lanlwytho copi ohono i’ch cyfrif ar-lein, oherwydd bydd hynny’n arafu eich cais. Os nad oes gennych basport dilys ar gyfer y DU, mae gennym restr o fathau eraill o dystiolaeth y gallwch ei darparu ac y bydd angen i chi ei phostio atom.
Mae gennym hefyd wybodaeth ar wahân ynghylch darparu tystiolaeth o bwy ydych chi os ydych yn un o wladolion yr UE.
Os ydych yn gwneud cais am gymorth ychwanegol
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth os ydych yn gwneud cais am gymorth ychwanegol. Dylech ddilyn y cyfarwyddiadau yn y rhestr o bethau i’w gwneud sydd yn eich cyfrif ar-lein.
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich cyfrif ar-lein a chofiwch ddarparu’r dystiolaeth a ddewiswyd gennych yn unig. Bydd darparu tystiolaeth nad oes arnom ei hangen yn arafu eich cais.
Cael gwybod am y gwahanol fathau o dystiolaeth y gallwn ei derbyn ar gyfer Grantiau Unigolion Dibynnol a Lwfans Myfyrwyr Anabl:
Os ydych yn rhiant neu’n bartner
Bydd cyflwyno gwybodaeth nad yw’n ofynnol yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i brosesu cais eich plentyn neu’ch partner ac y bydd tipyn o oedi cyn y bydd yn cael cyllid myfyrwyr.
Nid oes angen i chi lanlwytho unrhyw dystiolaeth, yn enwedig ffurflenni P60, oni bai ein bod yn gofyn amdani.
Os ydych wedi lanlwytho ffurflen P60 yn barod pan na ofynnwyd i chi amdani, dylech fynd ati’n awr i ddarparu eich manylion ariannol ar-lein neu lenwi ffurflen PFF2.
Ewch i’n tudalen bwrpasol i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae nodi eich manylion a chyflwyno tystiolaeth.