2021 i 2022: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2021 i 2022 ar agor yn awr. Gallant wneud cais yn gyflym ac yn hawdd ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Dylech annog eich myfyrwyr i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs. Os byddant yn gwneud cais yn hwyr, gallai eu harian gyrraedd yn hwyr hefyd!

Dylent wneud cais yn awr hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer mewn prifysgol neu goleg – dylent ddefnyddio eu dewis cyntaf a’i newid yn nes ymlaen os oes angen.

Beth am rannu ein ffilm fer ar eich sianelau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i’ch myfyrwyr rhan-amser pa help sydd ar gael?

Anogwch fyfyrwyr i’n dilyn ar Facebook a Twitter er mwyn iddynt gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid myfyrwyr.