Mae’n bryd i fyfyrwyr llawn amser wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae'r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026 i 2027 nawr ar agor! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy'n parhau y bydd angen iddynt ailymgeisio am gyllid myfyrwyr, hefyd trwy eu cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi'i gadarnhau ar gwrs eto. Dylent roi manylion eu cwrs dewisol i ni a'i newid yn ddiweddarach os bydd angen.

Myfyrwyr sy'n gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r Ffurflen gais Myfyriwr sy'n ariannu ffioedd dysgu yn unig.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o ganol mis Mai 2026.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor ir Mehefin 2026.

Pa gyllid sydd ar gael yn 2026 i 2027?

Rhannwch ein tudalen 'Darganfod Cyllid Myfyrwyr' i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gwybod pa gyllid y gallant ei gael ac i'w helpu i wneud cais. Dylech hefyd rannu ein sianel YouTube gyda nhw. Mae gennym fideos defnyddiol am ba gyllid y gall myfyrwyr ei gael a chymorth gyda gwneud cais.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a X yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales (yn agor mewn tab newydd)
X - @SF_Wales (yn agor mewn tab newydd)
YouTube /SFWFilm (yn agor mewn tab newydd)