Cael eich taliad cyllid myfyrwyr cyntaf
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am gael eich taliad cyntaf!
Os ydych chi'n cychwyn neu'n dychwelyd i gwrs yn fuan, byddwch yn edrych ymlaen at gael eich taliad cyllid i fyfyrwyr cyntaf. Gallwch wirio eich amserlen daliadau a’i statws trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd).
Dilynwch y camau hawdd hyn i'ch helpu i gael eich talu ar amser:
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich cais a rhoi unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd) a gwiriwch eich traciwr cais rhag ofn bod gennych unrhyw gamau i'w cwblhau.
- Gwiriwch fod eich manylion banc yn gywir yn eich cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd). I wneud hyn, cliciwch ar 'Eich manylion personol' yn eich cyfrif. Os oes angen i chi eu diweddaru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn eich dyddiad talu.
- Cofrestru ar eich cwrs.* Efallai y gallwch wneud hyn ar-lein trwy wefan eich prifysgol neu goleg. Ni allwn wneud taliadau i chi nes bod eich prifysgol neu goleg yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru. Byddwch yn cael eich gwahodd i wneud hyn gan eich prifysgol neu goleg yn nes at ddyddiad cychwyn eich cwrs.
*Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser neu ddysgu o bell a’ch bod yn cael Benthyciad Cynhaliaeth, bydd darparwr eich cwrs fel arfer yn cadarnhau eich cofrestriad 2 wythnos ar ôl i’ch cwrs ddechrau. Ni fydd eich amserlen dalu yn cael ei diweddaru hyd nes y byddwch wedi mynychu eich cwrs am 2 wythnos a’n bod wedi cael cadarnhad o’ch cofrestriad gan ddarparwr eich cwrs.
Beth mae eich statws talu yn ei olygu
Gallwch weld eich amserlen talu a statws yn eich cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd).
Darganfyddwch beth mae eich statws talu yn ei olygu:
Statws taliad | Beth y mae hynny’n ei olygu i chi |
---|---|
Gwirio manylion |
Mae angen i ni wirio eich rhif Yswiriant Gwladol cyn y gallwn eich talu. Ewch i ‘Eich gweithredoedd’ i'w cwblhau i'w gofnodi. |
Wedi Amserlennu |
Rydyn ni wedi trefnu amserlen eich taliadau. Cyn y gallwn eich talu, bydd eich prifysgol neu goleg yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi cofrestru gyda nhw. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs. |
Aros am gadarnhad |
Mae angen i’ch prifysgol neu goleg roi gwybod i ni eich bod wedi cofrestru ar eich cwrs. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs. Byddwn yn eich talu wedi i ni gael hyn. |
Yn barod i dalu |
Nid oes angen unrhyw beth arall gennych chi. Bydd eich taliad yn cael ei wneud ar y dyddiad a ddangosir. |
Taliad ar y gweill |
Mae eich taliad ar ei ffordd. Gall gymryd hyd at dri diwrnod gwaith iddo ymddangos yn eich cyfrif banc. |
Talwyd |
Rydym wedi gwneud taliad i'ch cyfrif banc. |
Wedi’i rwystro |
Ni allwn eich talu. Dylech eisoes wybod am hyn. Os nad ydych, mae gennym ffyrdd gwahanol i chi gysylltu â ni. |
Wedi methu |
Mae eich taliad wedi'i ddychwelyd atom. Ewch i ‘Eich manylion personol’ i wirio eich manylion banc. |
Gwirio a ydym wedi cael cadarnhad o'ch cofrestriad
Nid oes angen i chi ein ffonio i wirio, y ffordd gyflymaf a hawsaf i ddarganfod a ydym wedi cael cadarnhad o'ch cofrestriad yw trwy wirio eich cais neu'ch statws talu.
Defnyddiwch y tabl isod i ddeall beth mae pob statws yn ei olygu:
Statws cais | Statws Talu | Beth mae hyn yn ei olygu |
---|---|---|
Wrthi'n cadarnhau'r holl fanylion |
Aros am gadarnhad |
Nid oes gennym gadarnhad o'ch cofrestriad |
Derbyn taliadau |
Yn barod i dalu |
Rydym wedi cael cadarnhad o gofrestriad |
Os yw eich prifysgol neu goleg wedi dweud wrthych eu bod wedi anfon cadarnhad o’ch cofrestriad atom, dylech ganiatáu hyd at 24 awr i’r statws yn eich cyfrif ar-lein gael ei ddiweddaru.
Os gwnaethoch gais hwyr
Os ydych yn gwneud cais nawr, dylech barhau i gael rhywfaint o arian yn agos at ddechrau’ch cwrs, cyn belled â'ch bod wedi darparu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom a bod eich cais yn cael ei gymeradwyo.
Gan eich bod yn ymgeisio’n hwyr, efallai y cewch swm llai o grant i ddechrau.
Sicrhewch fod eich rhiant(rhieni) neu bartner wedi darparu manylion am incwm eich cartref er mwyn i ni allu gweithio allan faint fyddwch chi'n ei gael ac addasu eich cymhareb Benthyciad Cynhaliaeth a Grant.
Os ydych yn ystyried tynnu'n ôl neu ohirio'ch cwrs
Os ydych yn ystyried gadael eich cwrs, mae angen i chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i'ch prifysgol neu goleg cyn gynted â phosibl. Dylech hefyd gysylltu â ni, fel y gallwn atal eich taliad nesaf.
Ewch i'n tudalen am ragor o wybodaeth wrth adael neu ohirio eich cwrs.
Os yw'ch rhiant(rhieni) neu bartner yn cefnogi'ch cais
I wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm llawn o grant y mae gennych hawl iddo, efallai y bydd angen i’ch rhiant(rhieni) neu bartner roi manylion am incwm eich cartref.
Dylent wneud hyn gan ddefnyddio eu cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd) eu hunain. Dylent wirio eu cyfrif yn rheolaidd rhag ofn y byddwn wedi gofyn iddynt am ragor o wybodaeth. Ni ddylent lanlwytho eu P60 oni bai ein bod yn gofyn amdani, gan y gallai hyn achosi oedi gyda'ch cais.
Os yw incwm eich rhiant(rhieni) neu bartner wedi gostwng
Byddwn yn gofyn i’ch rhiant(rhieni) neu bartner ddarparu manylion incwm o flwyddyn dreth 2022 i 2023 ar gyfer eich cais 2023 i 2024. Os yw eu hincwm wedi gostwng 15% neu fwy ers hynny, gallant wneud cais i gael defnyddio eu hincwm amcangyfrifiedig ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.
Dysgwch fwy am broses incwm y flwyddyn gyfredol.
Helpu eich ffrindiau i gael eu talu’n brydlon!
Yw eich ffrindiau hefyd yn disgwyl taliad cyntaf eu cyllid myfyrwyr?
Rhannwch y dudalen hon ar Facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd) i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu talu’n brydlon hefyd!