Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi pasio


Mae’r dyddiad cau i fyfyrwyr israddedig llawn-amser newydd a myfyrwyr israddedig llawn-amser sy’n parhau wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 wedi pasio erbyn hyn. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gwneud cais eto – nid yw’n rhy hwyr i chi wneud cais a chael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch

Dylech barhau i wneud cais yn awr, hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallwch newid eich cais yn gyflym ac yn hawdd ar-lein yn nes ymlaen os bydd angen.

Os byddwch yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr sy’n seiliedig ar incwm eich cartref, bydd arnom angen manylion am incwm eich rhieni neu’ch partner. Bydd yn cymryd mwy o amser i ni brosesu manylion am incwm eich cartref, felly mae’n debyg mai dim ond rhywfaint o’ch Benthyciad Cynhaliaeth y byddwch yn ei gael ar ddechrau’r tymor – byddwn yn talu’r gweddill cyn gynted ag y gallwn.