2022 i 2023: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr.

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

Dylech wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg, dylech wneud cais yn awr gan ddefnyddio eich dewis cyntaf a’i newid yn nes ymlaen os oes angen.

Beth am wylio ein ffilm fer i gael gwybod pa gyfuniad o fenthyciadau a grantiau y gallech ei gael?

Gallwch hefyd fynd i’r hafan ar gyfer myfyrwyr rhan-amser i gael gwybod mwy am beth y gallwch ei gael a sut mae gwneud cais.