Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn awr.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd, felly peidiwch â gwastraffu amser! Gwnewch gais yn awr neu mae’n bosibl na chewch eich talu mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Gallwch wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer eto ar gwrs. Rhowch fanylion y cwrs yr ydych yn ei ffafrio i ni a newidiwch nhw’n nes ymlaen os oes angen.

 

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2022 i 2023

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod sut mae gwneud cais, faint o arian y gallwch ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig.