2024 i 2025: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!
Mae ceisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2024 i 2025 nawr ar agor!
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i'ch cyfrif nawr.
Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl, felly peidiwch â gwastraffu amser! Ymgeisiwch nawr neu efallai na fyddwch chi'n cael eich arian mewn pryd i ddechrau eich cwrs.
Darganfyddwch pa gyllid sydd ar gael yn 2024 i 2025
Ewch i’n tudalennau i ddarganfod sut i wneud cais, faint allwch chi ei gael a help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.